Ardrethi busnes
Mae talwyr ardrethi a pherchnogion pob eiddo annomestig a busnes yn talu ardrethi busnes, ac mae enghreifftiau o eiddo atebol yn cynnwys siopau, swyddfeydd, tafarnau, warysau a ffatrïoedd.
Y lluosydd ardrethi busnes
Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r lluosydd ardrethi’n flynyddol, ac mae’r un fath ledled Cymru.
Y lluosydd ar gyfer 2024-25 yw 56.2p
I gael gwybod faint fyddwch yn ei dalu am flwyddyn lawn, lluoswch eich gwerth trethadwy gyda’r lluosydd.