Ardrethi eiddo gwag
Fel rheol, rhaid i berchnogion eiddo annomestig gwag dalu ardrethi eiddo gwag. Os daw eiddo’n wag, ceir cyfnod o dri mis lle nad oes angen talu ardrethi, neu chwe mis ar gyfer eiddo diwydiannol. Wedi hynny, rhaid talu’r ardrethi 100%.
Mae rhai mathau o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi gwag o’r fath, fel:
- eiddo rhestredig
- henebion hynafol
- lle mae’r gyfraith yn gwahardd preswylio
- lle mae’r adeilad yn rhan o stad person sydd wedi marw, neu os yw’r perchennog yn wynebu gweithrediadau methdaliad
Cysylltu
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyfeiriad ebost: taxation@bridgend.gov.uk
Iaith arwyddion: https://bridgendcbc.signvideo.net/
Cyfnewid testun: Rhowch 18001 cyn bob un o’n rhifau ffôn.
Oriau Agor 1: Llun i Iau: 8:30am i 5pm
Oriau Agor 2: Gwener: 8:30am i 4:30pm