Gostyngiadau i fusnesau bach

Mae eiddo busnes sydd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000 yn cael gostyngiad o 100%.

Mae’r rhai â gwerth trethadwy sydd rhwng £6,001 a £12,000 yn cael gostyngiad ar sail raddol, o 100% i sero.

Gwerth trethadwy Canran y gostyngiad
0 i 6,000 100
7,000 83.4
8,000 66.6
9,000 50.0
10,000 33.3
11,000 16.6
12,011 0

Cymhwysedd am ostyngiad

Mae eiddo gyda deiliaid yn cael gostyngiadau busnes yn awtomatig, a bydd yr hysbysiad talu’n dangos hyn. Os yw’r trethdalwr yn gyfrifol am fwy na dau eiddo ar restr ardrethi annomestig lleol sengl, dim ond hyd at ddau eiddo o’r fath gaiff ostyngiad.

Rhaid i rai mathau o eiddo busnes, fel y rhai sy’n seiliedig ar y defnydd o eiddo, ddweud wrthym am eu cymhwysedd cyn gellir dyfarnu gostyngiad. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Cysylltu

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Ffôn: Dewiswch opsiwn tri 01656 643643
Cyfeiriad ebost: taxation@bridgend.gov.uk
Cyfnewid testun: Rhowch 18001 cyn bob un o’n rhifau ffôn.
Oriau Agor 1: Llun i Iau: 8:30am i 5pm.
Oriau Agor 2: Gwener: 8:30am i 4:30pm.

Chwilio A i Y

Back to top