Triniaethau arbennig: Aciwbigo, electrolysis, tyllu’r corff a thatŵio

Gwybodaeth am y cynllun trwyddedu newydd ar gyfer aciwbigo, electrolysis, tyllu’r corff a thatŵio.

Yn unol â’r gyfraith, mae'n rhaid bod gennych drwydded i wneud y canlynol:

  • aciwbigo
  • tatŵio
  • tyllu'r corff (gan gynnwys y glust)
  • electrolysis

Rhaid i bob ymarferydd gael ei drwydded triniaethau arbennig ei hun a fydd yn cadarnhau'r driniaeth/triniaethau y mae wedi'i drwyddedu'n bersonol i’w cyflawni.

Rhaid i bob mangre neu gerbyd busnes triniaethau arbennig gael tystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd ei hun.

Gwneud cais 

 I ymgeisio, cwblhewch ffurflen gais:

Pan fyddwch yn barod i gyflwyno'ch cais, e-bostiwch eich cais ynghyd â'r holl ddogfennau ychwanegol sydd eu hangen i:

Cyfeiriad ebost: licensing@bridgend.gov.uk

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, gallwn eich ffonio i gymryd taliad dros y ffôn a rhoi gwybod am y camau nesaf. 

Chwilio A i Y

Back to top