Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr (CSP) yn cynnwys amrywiol asiantaethau o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n cydweithio i leihau trosedd, anhwylder ac ofn trosedd yn lleol, er mwyn gwella ansawdd bywyd ac i greu amgylchedd byw a gweithio mwy diogel.
Nod y bartneriaeth yw delio ag anghenion unigolion a chymunedau i sicrhau eu bod yn teimlo’n fwy diogel ac yn mwynhau mwy o gyfleoedd o fewn eu cymunedau lleol.
Aelodau statudol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yw:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Nid oes yn rhaid i’r sefydliadau hyn fod yn aelodau o’r bartneriaeth, ond maent wedi dewis bod:
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- aelod etholedig diogelwch cymunedol
- Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg
- landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr

Ymddygiad gwrth-gymdeithasol
Mae Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 yn diffinio ymddygiad gwrth-gymdeithasol fel gweithredu mewn ffordd sy’n achosi neu’n debygol o achosi “aflonyddwch, pryder neu ofid i un neu fwy o bobl, heb fod o’r un teulu”.
Gwrth derfysgaeth (Atal)
Mae Atal yn defnyddio cefnogaeth pobl yn ein cymunedau ni i gyrraedd y rhai a all gael eu denu at derfysgaeth drwy safbwyntiau eithafol yn aml.
Adolygiadau dynladdiad domestig
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal Adolygiad Dynladdiad Domestig (ADD) pan mae rhywun 16 oed neu hŷn yn marw oherwydd cam-drin domestig.
Troseddau Casineb
Troseddau casineb yw unrhyw droseddau sy'n targedu person oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag at eu hanabledd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth trawsryweddol.
Caethwasiaeth fodern
Os ydych chi’n amau caethwasiaeth fodern, rhowch wybod am hynny i’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 08000 121 700 neu’r heddlu ar 101.