Yr Iaith Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes gyda’r cyhoedd. Hefyd, rydym yn ymroddedig i helpu i godi ymwybyddiaeth trigolion a chyflogeion o’r iaith a’r diwylliant.

Mae ein strategaeth bum mlynedd yn disgrifio sut y byddwn yn bwriadu rhoi hwb i’r Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg ymhlith ein trigolion a’n cyflogeion.

Safonau’r Gymraeg

Mae ein dogfen gydymffurfio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2015 yn nodi'r 171 o safonau y mae angen i ni gydymffurfio â nhw.

Er 30 Mawrth 2016, roedd yn rhaid i ni gydymffurfio â 144 o safonau, a'r 27 sy'n weddill erbyn 30 Medi 2016. Mae'r safonau'n cynnwys pum thema:

  • Gwasanaethau
  • Gwneud polisïau
  • Gweithredoedd
  • Hyrwyddo
  • Cadw cofnodion

Mae'r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau.

Ffurflenni asesu’r Gymraeg

Byddwn yn cyhoeddi ein ffurflenni asesu’r Gymraeg ar gyfer ein cyrsiau addysg cyhoeddus bob blwyddyn.

Cwynion am y Gymraeg

Rydym wedi diweddaru ein polisi cwynion corfforaethol i nodi sut rydym yn ymdrin â chwynion am y Gymraeg.

Welsh flag at Civic Offices

Cyswllt

Cyfeiriad: Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad ebost: WLS@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top