Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid ein bod, gyda'n gilydd, yn cydnabod ac yn deall y dylai'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ac sydd yn gwasanaethu ar hyn o bryd, a'u teuluoedd gael eu trin yn deg a pharchus yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas maent yn eu gwasanaethu ynddynt.

Signing of the Armed Forces Covenant in 2023

Mabwysiadwyd Cyfamod y Lluoedd Arfog gan y cyngor yn 2013. Cynhaliwyd seremoni ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ddydd Gwener, 23 Mehefin 2023.

Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog

Ein hyrwyddwr lluoedd arfog yw'r Cynghorydd Martyn Jones.

Gwaith yr hyrwyddwr yw codi proffil cymuned y lluoedd arfog ac mae'n gweithio er mwyn cael gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'i phroblemau.

Mae'n eirioli drosti, ac yn sicrhau bod ei buddion yn cael eu hystyried a'u blaenoriaethu yn ein polisïau a'n strategaethau.

Rydym yn falch o allu atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi aelodau presennol y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd oll wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n cymunedau. Dros y deg mlynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn weithredol o ran datblygu ein perthynas gyda chymuned y Lluoedd Arfog a sefydliadau eraill, gan gynnig cefnogaeth gydag addysg, iechyd a lles, tai, cyngor ariannol, gyrfaoedd a gostyngiadau i brisiau gwasanaethau, a byddwn yn parhau i geisio ei gwneud hi’n haws gwneud defnydd o’n cymorth a chefnogaeth yn y gymuned leol.

Dyma nodau Fforwm y Lluoedd Arfog Pen-y-bont ar Ogwr:

  • monitro cyflawni amcanion y cyfamod
  • parhau i adnabod anghenion y personél gwasanaethu presennol a’r cyn-bersonél, a’u teuluoedd
  • ystyried ac asesu addasrwydd unrhyw geisiadau i Gynllun Grant Cyfamod y Lluoedd Arfog, cyn eu cyflwyno’n ffurfiol
  • gwella’r rhannu a’r cofnodi ar wybodaeth am ein lluoedd arfog

Pryd: Ail ddydd Sadwrn bob mis

Ble: Toby Carvery, Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3UL

Cyfle i gyfarfod cyn-filwyr ac aelodau o Luoedd Arfog Ei Fawrhydi ar gyfer rhwydweithio a chymdeithasu dros frecwast.

Mae’r clwb yn cyfarfod ar ail ddydd Sadwrn bob mis ar gyfer brecwast am 9:30am.

"Roedd yn bleser cyfarfod yn ddiweddar â chyn-filwyr am frecwast yn y Toby Carvery. Grŵp anhygoel o gyn-filwyr a oedd yn hynod o falch o gynrychioli eu grŵp. Os ydych chi’n gyn-filwr ac eisiau cyfarfod â’ch cyn-filwyr, mae croeso cynnes i chi.” - Cyng. Martyn Jones, Eiriolwr Lluoedd Arfog

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â thudalen Facebook y clwb: Clwb Brecwast cyfunedig y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r Wobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi bod yn weithgar wrth ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Er mwyn ennill y wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o'u polisïau recriwtio. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu'n ymwybodol o'u polisïau cadarnhaol tuag at faterion gweithwyr Amddiffyn sy’n berthnasol i filwyr wrth gefn, cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr gyda Lluoedd y Cadetiaid (Oedolion), a phriod a phartneriaid y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Gwobr Arian Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr

Testun balchder mawr i Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yw derbyn Gwobr Arian Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr, sy'n dangos ein hymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog, megis drwy gynnig gwyliau i'r rhai sy'n gwasanaethu wrth gefn a'r cynllun gwarantu cyfweliad. Rydym yn cydnabod bod gennym rôl i'w chwarae fel cyflogwr i gynorthwyo'r rhai sy'n gadael y Lluoedd Arfog i gyflawni eu potensial mewn bywyd dinesig.

Rydym wedi gweithio â milwyr wrth gefn a chyn-filwyr i ddysgu ganddynt a pharhau i weithio fel sefydliad sy'n rhannu gwerthoedd tebyg i'r lluoedd arfog, wrth gynnig sefydlogrwydd a chydbwysedd mewn bywyd personol a gwaith, sydd mor bwysig.

Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr eleni hefyd er mwyn gallu dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog unwaith eto ym mis Mehefin, sy'n cyd-fynd â llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ffurfiol, a hynny ddeng mlynedd ers y tro diwethaf i ni lofnodi'r Cyfamod Cymunedol, yn ogystal â digwyddiad codi Baner y Lluoedd Arfog a ddenodd dorf sylweddol.

Silver Employer Recognition Scheme Award banner
Cllr Martyn Jones - Armed Forces Champion

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Ffôn: 01656 642759

Chwilio A i Y

Back to top