Cais am gymorth gan eich cynghorydd lleol

Caiff cynghorwyr eu hethol yn rhannol i ddatrys problemau dinasyddion. Maent yn:

  • helpu trigolion sydd â phryderon neu ymholiadau
  • parchu anghenion etholwyr
  • pennu polisi’r cyngor, fel grŵp

Er enghraifft, gallent helpu i ddatrys problem yn ymwneud â thai neu drefnu arwydd stryd newydd.

Y broses o gael cymorth gan gynghorydd:

  1. Cysylltwch â'ch cynghorydd lleol
  2. Bydd cynghorwyr yn cyfeirio eich ymholiad at yr adran berthnasol.
  3. Yna bydd yr adran yn ymchwilio i’r mater, ac yn ymateb i’r cynghorydd.
  4. Ein nod cychwynnol yw ymchwilio ac ymateb i bob ymholiad o fewn deg diwrnod gwaith ar ôl eu derbyn. Eto, mae hyn yn dibynnu ar y math o broblem, a’r adnoddau sydd ar gael.

Dod o hyd i'ch cynghorydd lleol

Bydd cynghorydd eich ward yn delio gyda'ch ymholiadau.

Mae rhai cynghorwyr yn cynnal cymorthfeydd ‘galw heibio’, fel arfer mewn adeiladau cymunedol.

Mae cynghorwyr yn gwybod y gellir cysylltu â nhw drwy gydol yr wythnos a phan fônt gartref. Gan eu bod yn brysur iawn, byddwch yn ymwybodol efallai weithiau na fyddent ar gael dros dro.

Defnyddiwch ein cyfleuster chwilio am gynghorydd er mwyn gweld pwy eich cynghorydd a sut i gysylltu â hwy:

Neu, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Gwasanaethau Aelod:

Ffôn: 01656 643375

Cymorth cyfrinachol

Mae’n rhaid i gynghorwyr gadw materion yn gyfrinachol. Er y bydd yn rhaid iddynt gysylltu â swyddogion y cyngor i ddatrys y rhan fwyaf o ymholiadau, mae ein cyflogeion hefyd yn rhwymedig wrth gymal cyfrinachedd.

Chwilio A i Y

Back to top