Pwyllgorau trosolwg a chraffu
Rôl y pwyllgorau trosolwg a chraffu yw galw i gyfrif aelodau gweithredol a’r cabinet ynghylch eu penderfyniadau.
Maent yn gwneud adroddiadau ac argymhellion sy'n cynghori'r cabinet a'r cyngor ar ei bolisïau, ei gyllideb a darpariaeth gwasanaethau. Maent yn cefnogi gwaith y cyngor yn gyffredinol wrth wella gwasanaethau cyhoeddus.
Mae pwyllgorau trosolwg a chraffu:
- yn helpu llunio polisïau a phenderfyniadau'r cyngor a sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion trigolion a grwpiau cymunedol
- yn monitro penderfyniadau gweithredol a’r cyngor a gwneud y broses o wneud penderfyniadau yn fwy cymunedol-ganolog
- sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu i drigolion
- cwestiynu cynghorwyr, staff, sefydliadau allanol a'r cyhoedd ar wasanaethau cyhoeddus
- ymgysylltu â'r cyhoedd i ddatblygu polisïau a gwasanaethau sy'n canolbwyntio arnynt
- adolygu polisïau a gwasanaethau ac argymell gwelliannau
Mae gennym bwyllgorau trosolwg a chraffu am nifer o resymau, gan gynnwys:
- gwella'r broses o wneud penderfyniadau
- gwella gwasanaethau
- gwella'r ffordd caiff polisïau eu datblygu
- gwella democratiaeth
- sicrhau tryloywder ac atebolrwydd
- annog hunan-herio yn seiliedig ar dystiolaeth
Cofnodion cyfarfodydd ac agendâu
Gwybodaeth am bob pwyllgor, gan gynnwys agendâu, papurau a chofnodion:
Dulliau craffu
Gwybodaeth am y dulliau craffu sy'n cael eu defnyddio gan y cyngor: Cyn penderfynu, monitro perfformiad, galw i mewn ac adolygiadau trylwyr.
Cymerwch ran mewn gwaith Craffu
Mae Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eisiau cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill wrth graffu. Mae'n golygu y gall trigolion gael mwy o lais mewn materion cyngor.
Blaenraglen Waith
Ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, gofynnir i bob pwyllgor pa faterion y mae angen eu harchwilio yn ystod y flwyddyn. Wrth ddarganfod pa bynciau i'w harchwilio, maent yn edrych ar faterion megis effaith, risg, perfformiad, cyllideb a'r hyn y mae'r cyhoedd yn ei feddwl.
Trosedd ac anhrefn
Mae materion trosedd ac anrhefn yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymddygiad sy'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol, a chamddefnyddio cyffuriau, alcohol neu sylweddau eraill.