Cymerwch ran mewn gwaith craffu

Mae pwyllgorau trosolwg a chraffu eisiau cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill wrth graffu. Mae'n golygu y gall trigolion gael mwy o lais mewn materion cyngor.

Gallwch gymryd rhan mewn materion craffu trwy ddarparu tystiolaeth i bwyllgor, gan awgrymu eitem i'w archwilio trwy gwblhau ffurflen gais, neu drwy siarad mewn pwyllgor fel cynrychiolydd.

Darparu gwybodaeth i bwyllgor craffu

Gellir anfon gwybodaeth ysgrifenedig ar bwnc at y tîm Craffu a’i hymgorffori yn y dystiolaeth a ddarperir i’r pwyllgor craffu.

Cyfeiriad ebost: scrutiny@bridgend.gov.uk

Awgrymu eitem i’w graffu

Mae modd awgrymu eitem ar gyfer craffu mewn sawl ffordd:

Yna gall yr eitem gael ei chyflwyno i’r pwyllgor craffu perthnasol i’w hystyried.

Mynychu pwyllgor

Fel cynrychiolydd gallwch gael eich gwahodd i siarad a darparu tystiolaeth mewn pwyllgor craffu.

Cyfeiriad ebost: scrutiny@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top