Mae dyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal a gwella bioamrywiaeth, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Cyfeirir at hyn yn aml fel y Ddyletswydd Adran 6.
Fe wnaeth y Cyngor gynhyrchu Biodiversity and Ecosystem Resilience Forward Plan ar gyfer y cyfnod 2018-2022, gan nodi'r camau y byddai'n eu cymryd i fodloni'r gofyniad deddfwriaethol hwn.
Cafodd y gwaith o gyflwyno Cynllun 2018-22 ei adolygu, a nodwyd y canfyddiadau yn Bridgend Biodiversity and Ecosystem Resilience Progress Report, 2018-21.
Mae'r Cynllun newydd hwn, Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-25, yn nodi'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd am y tair blynedd nesaf. Mae'n cael ei lywio gan argymhellion yr Adroddiad Cynnydd, a dynnodd sylw at gryfderau i adeiladu arnynt, a meysydd ar gyfer gwella'r ddarpariaeth.
Bwriad camau gweithredu'r Cynllun hwn yw ymwreiddio darpariaeth bioamrywiaeth ar draws yr holl sefydliad, gan adlewyrchu'r casgliad eang o weithgareddau a swyddogaethau sydd รข'r potensial i gyfrannu at ymdrechion byd-eang, cenedlaethol a lleol i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.