Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol

Mae'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) yn ystyried y rôl ehangach mae bioamrywiaeth yn ei chwarae wrth ddarparu buddion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr gyfoeth o fioamrywiaeth gyda nifer o wahanol blanhigion, anifeiliaid, pryfetach a rhywogaethau eraill, megis organebau sy'n byw mewn pridd. Mae'r cynefinoedd mae'r rhywogaethau hyn i'w canfod yn darparu nifer o wahanol ffwythiannau, sy'n aml yn cael eu galw'n 'wasanaethau ecosystem'.

Mae bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflenwi cyfoeth o wahanol fuddion amgylcheddol. Mae'r rhyngweithio rhwng bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem yn cael ei archwilio yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol: Asesiad ac Adolygiad Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem 2014 yw ein Cynllun Adfer Byd Natur.

Mae’n rhestru ein cynefinoedd yn ogystal â’r risgiau iddynt, ac yn cyflwyno awgrymiadau ar gyfer eu gwarchod.

Mae Adroddiad Technegol yr Asesiad Bioamrywiaeth ac Ecosystem yn cefnogi'r ddogfen hon.

Gyda'i gilydd cânt eu hadnabod fel y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP).

Sut i ddefnyddio’r dogfennau

Nod y CGBLl yw gweithio gyda pholisïau allweddol eraill sy’n cefnogi polisi cynllunio lleol.

Yn benodol, dylid darllen y CGBLl ochr yn ochr â’r adroddiad ar yr Ardal Cymeriad Tirwedd (ACT) gan Ymgynghorwyr Defnydd Tir (LUC, 2013).

Mae’r ACT yn disgrifio gwahanol ardaloedd ein sir a beth sy’n eu gwneud yn unigryw.

Gwasanaethau ecosystemau

Mae’r CGBLl yn nodi’r lles mae byd natur yn ei greu i bobl, a chyfeirir at hyn yn aml fel gwasanaethau ecosystemau.

Er enghraifft, mae’r tir yn rhoi gwasanaeth i ni drwy buro dŵr glaw i bobl ei yfed. Mae byd natur yn gwneud y pethau gwerthfawr hyn am ddim. Pe na bai’n gwneud hynny, byddai’n rhaid i bobl dalu am greu’r gwasanaethau hyn yn artiffisial.

Mae’r ddogfen asesu ac adolygu bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau, 2014, yn argymell sut gellir gwella’r gwasanaethau hyn. Yn y cyfamser, mae’r ddogfen dechnegol yn disgrifio’r gwasanaethau ecosystemau ym mhob rhan o’r sir yn fanwl.

Chwilio A i Y

Back to top