Cynllun Strategol Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu ystod eang o wasanaethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau plant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Er bod y gyfarwyddiaeth yn falch o’r gwaith y mae’n ei wneud, rydym yn cydnabod bod llawer o heriau yn parhau os ydym am sicrhau bod ein gwasanaethau addysg a chymorth i deuluoedd yn gallu addasu i ddiwallu anghenion ein preswylwyr.

Mae’r cynllun strategol hwn yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol gwasanaethau addysg a chymorth i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn dwyn ynghyd ein huchelgeisiau a’n nodau gweithredol i fynd i’r afael ag effaith tlodi a chefnogi pobl i fyw bywydau iachach a llewyrchus.

Ein nod yw sicrhau tegwch a rhagoriaeth i bawb.

Education and Family Support Directorate Strategic Plan cover

Chwilio A i Y

Back to top