Cynllun Trafnidiaeth Lleol

Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol (LTP) yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gosod ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth dros gyfnod o 15 mlynedd.

Prif ffocws y Cynllun Trafnidiaeth Lleol yw mynd i’r afael â phroblemau cysylltiedig â thrafnidiaeth leol a sut y gall alluogi twf economaidd a newid ymddygiad teithio.

Mae’r CTLl yn disodli’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ac mae wedi’i ysgrifennu yng nghyd-destun diweddariad Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol drafft 2017 Llywodraeth Cymru. 

Mae ein cynlluniau CTLl yn cynnwys y sawl rydym wedi’u nodi hyd yn hyn. Serch hynny, byddwn ni’n ystyried ar gyfer fersiynau yn y dyfodol unrhyw gynlluniau eraill a nodir sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y CTLl.

Oherwydd materion perthnasol y mae angen cynllunio ar eu cyfer ar y cyd, mae ein CTLl wedi gwneud cysylltiadau gyda chynigion ac amserlenni ar gyfer yr awdurdodau lleol cyfagos lle y bo modd.

Mae Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg wedi gadael Cynghrair Trafnidiaeth darfodedig De-ddwyrain Cymru ac maen nhw wedi ymuno â ni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ddylanwad economaidd a dylanwad yng nghyswllt trafnidiaeth sylweddol ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y

Back to top