Mae’r Datganiad Llesiant yn nodi amcanion llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn disgrifio sut y byddant yn ein helpu i gyflawni’r saith nod llesiant ar gyfer Cymru.
Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’n cynllun corfforaethol 2018-2023, a ddiweddarwyd ar gyfer 2021-22, sy’n nodi ein hamcanion llesiant ac yn sefydlu’r rhesymeg a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni.
Yn ein datganiad llesiant, rydym yn nodi cwmpas pob amcan llesiant, yr hyn yr ydym am ei gyflawni, a pham eu bod yn bwysig. Mae ein gweledigaeth o un cyngor yn cydweithio i wella bywydau wrth wraidd ein hamcanion llesiant.