Strategaeth Ddigidol

Mae ein Strategaeth Ddigidol yn amlinellu sut rydym yn bwriadu cael Cyngor Digidol sy’n cydnabod uchelgais strategaeth ‘Digidol yn Gyntaf’ Llywodraeth Cymru Strategaeth Drawsnewid Llywodraeth y DU ac yn alinio gyda hwy.

Mae Amcanion Llesiant Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u hymgorffori yn nodau ac amcanion y Strategaeth Ddigidol.

Nid yw'n ymwneud yn gyfan gwbl â chynllunio prosesau er hwylustod i ni nac o amgylch ein strwythurau mewnol ond mae'n canolbwyntio ar fod yn wirioneddol ganolog i ddinasyddion, yn effeithlon ac yn addas i'r diben, gan wneud defnydd doethach o adnoddau drwy drawsnewid a gynorthwyir gan dechnoleg. 

Digital Strategy cover

Nodau

Nodau Pen-y-bont ar Ogwr, fel Cyngor sy'n aeddfed yn ddigidol fydd:

  • Integreiddio systemau, lleihau dyblygu a lleihau mewnbwn â llaw gan anelu at sicrhau bod dinasyddion yn adrodd eu stori wrthym 'unwaith' yn unig.
  • Darparu swyddogaeth ddigidol hunan-wasanaeth glir a greddfol drwy Fy Nghyfrif sydd ar gael 24/7 gyda chyfranogiad staff dim ond pan fydd ei angen ar y defnyddiwr neu lle mae'n ychwanegu gwir werth.
  • Sicrhau bod dinasyddion wedi’u harfogi’n well i reoli sefyllfaoedd eu hunain, gan ryddhau ein staff i ganolbwyntio ar y rhai mwyaf anghenus.
  • Rhoi'r offer cywir i'n staff i alluogi diweddaru’r wybodaeth a'r cysylltedd sydd eu hangen ar gyfer gweithio ystwyth iawn mewn amser real.
  • Nodi tueddiadau a heriau hirdymor yn y dyfodol a bod yn barod yn ddigidol a'u galluogi i ymateb i'r heriau hyn.
  • Croesawu gwasanaethau cwmwl a fydd yn darparu seilwaith mwy gwydn i ddiogelu ein gweithrediadau yn y dyfodol.
  • Sicrhau ail-ddylunio gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd gyda phwyslais ar anghenion dinasyddion, ymgorffori manteision cymunedol a chyfleu'r rhain wrth i ni symud ymlaen.
  • Integreiddio systemau gan sicrhau eu bod yn 'siarad' â'I gilydd, gan leihau dyblygu a lleihau mewnbwn â llaw drwy awtomeiddio lle bo modd.
  • Gweithio fel 'Un Cyngor' ac annog gwahanol rannau o'r sefydliad i beidio â datblygu prosesau lluosog neu seilos diangen.
  • Profi'r farchnad ddigidol i gaffael y dechnoleg a'r gwasanaethau sy'n dod i'r amlwg sydd eu hangen i ddod yn Gyngor sy'n aeddfed yn ddigidol.
  • Sicrhau gwerth am arian drwy wneud defnydd doethach o adnoddau.
  • Gosod targedau clir ac uchelgeisiol ar gyfer cyflawni ffrydiau gwaith digidol.

Chwilio A i Y

Back to top