Adolygiadau Ffiniau
Gwybodaeth am adolygiadau ffiniau cyfredol a blaenorol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynghorau Tref a Chymuned - Adolygiad Trefniadau Etholiadol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal adolygiad Trefniadau Etholiadol ar holl Gynghorau Tref a Chymuned ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Y rheswm am hyn yw bod Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn rhoi cyfrifoldeb ar gynghorau i fonitro trefniadau etholiadol cymunedau lleol, ac i bennu a yw hi’n briodol gwneud neu argymell newidiadau a fydd yn gwasanaethu eu hanghenion orau.
Cafodd yr adolygiad diwethaf ei gynnal yn 2009, gan ddilyn patrwm bob tua 10 mlynedd.
Mae’r adolygiad wedi ystyried y canlynol:
- Nifer y Cynghorau Tref a Chymuned - gan gynnwys yr opsiwn i gyfuno, newid, neu greu rhai newydd.
- Trefniadau Etholiadol - gan gynnwys nifer y cynghorwyr, nifer y wardiau, nifer y cynghorwyr a etholwyd ym mhob ward, a ffiniau wardiau.
- Enwau/teitlau Cynghorau Tref a Chymuned.
Mae’r adroddiad drafft o argymhellion, sy’n nodi’r newidiadau arfaethedig i ffiniau a threfniadau etholiadol, i’w weld isod.
Mae fersiynau papur hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol ac yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae mapiau sy’n dangos y ffiniau presennol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned, hefyd ar gael.
Dweud eich dweud
Fel rhan o’r adolygiad hwn, mae’r cyngor wedi cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos i gasglu barn ar yr argymhellion drafft.
Fel arall, gallwch gyflwyno’ch adborth i:
Mae’n rhaid i bob adborth gael ei gyflwyno cyn 23:59 ar 7 Ebrill 2025.
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori hwn, bydd angen i’r cynlluniau gael eu harolygu a’u cymeradwyo gan Y Comisiwn Ffiniau i Gymru a Democratiaeth Leol Cymru.
Byddai unrhyw newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol yn 2027.
Trefniadau presennol
Mapiau o drefniadau presennol yn y fwrdeistref sirol: