Gwasanaethau cwsmeriaid
Mae ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym eisiau sicrhau y gall pob sector o’r gymuned ddefnyddio ein gwasanaethau a’ch bod yn derbyn y lefel uchaf o wasanaeth cwsmeriaid pryd bynnag a sut bynnag y byddwch yn cysylltu â ni.
Os bydd eira, llifogydd neu dywydd garw, bydd gwybodaeth am wasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei rhannu yma.
Rydym yn gweithredu gamerâu sy’n cofnodi ar raddfa o 30 ffrâm yr eiliad.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion y gall fod gennych chi ynglyˆn â’n gwasanaethau.
Gallwch gysylltu’n uniongyrchol â ni am nifer o faterion, gan gynnwys budd-daliadau, bathodynnau glas, y dreth gyngor, priffyrdd, tai, pridiannau tir, trwyddedu, cymorth Fy Nghyfrif, cynllunio a rheoli adeiladu, gwastraff ac ailgylchu, rheoli plâu a chofrestrwyr
Rydym wedi ymuno â GovDelivery - platfform gwybodaeth diogel a fydd yn eich galluogi i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ar draws ystod o wasanaethau'r cyngor, wedi’u dewis gennych chi.
Mae’r system mapio GIS yn galluogi i chi weld gwybodaeth leol ar fap, fel dalgylchoedd ysgolion a chynghorwyr lleol. Mae hefyd yn dangos gwybodaeth am wasanaethau lleol, fel bysiau.
Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif i gael mynediad at ystod o wasanaethau’r cyngor bob amser.
Rhoi gwybod am broblem i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bresenoldeb corfforaethol ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol X, Facebook, Instagram a YouTube i gyfathrebu â phobl sy’n byw ac yn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ag ymwelwyr.