Fy Nghyfrif
Gwasanaeth personol ar gyfer trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Fy Nghyfrif.
Gyda Fy Nghyfrif gallwch:
- Adrodd ar faterion ar-lein, yn cynnwys tyllau yn y ffordd a goleuadau stryd neu arwyddion ffyrdd wedi'u difrodi
- Gweld a rheoli eich cyfrif treth gyngor
- Rheoli eich budd-dal tai a gostyngiad treth gyngor - Gwneud cais, gweld a newid eich manylion
- Gwneud cais am ymweliad rheoli pla (eiddo domestig yn unig)
- Gwneud cais am dderbyniadau i’r ysgol
- Gwneud cais am brydau ysgol am ddim
- Cofrestru ar gyfer e-filiau - Yn ogystal â derbyn eich biliau yn gyflymach, gallwch hefyd weld eich hen filiau ar-lein
Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif
Gallwch gofrestru’n gyflym a hawdd, cyfeiriad e-bost yw’r cyfan sydd ei angen arnoch.
Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
I fewngofnodi i Fy Nghyfrif nodwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair.
Saith mantais fawr e-filiau
Mae defnyddio e-filio i’ch biliau treth gyngor yn golygu y gallwch:
- mynediad cynt i’ch biliau, cyn gynted ag y maent ar gael
- cael budd o system ddiogel, breifat heb ddim yn mynd ar goll yn y post
- cael tawelwch meddwl, yn hytrach na meddwl pa bryd y bydd eich bil yn cyrraedd
- mynediad i’ch biliau ar-lein, unrhyw bryd
- cael gwybod drwy e-bost cyfleus, gyda dolen i’ch bil ar-lein
- bob amser gwybod ble mae’ch hen filiau, gan fod Fy Nghyfrif yn cadw popeth
- helpwch yr amgylchedd drwy beidio ag argraffu bil papur
Cwestiynau Cyffredin
Ceisiwch roi eich manylion eto neu edrych yn eich ffolder e-byst sothach.
Rhaid defnyddio’r e-bost a’r cyfrinair a ddefnyddioch i greu eich cyfrif.
Sicrhewch fod eich cyfrif yn weithredol drwy glicio ar y ddolen yn yr e-bost a gawsoch wrth gofrestru.
Gallwch ail-osod eich cyfrinair ar-lein.
I wneud hyn, bydd angen i chi gael mynediad i’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i sefydlu’r cyfrif.
Mae modd newid eich cyfeiriad e-bost cofrestredig drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif, dewis eich enw ar frig y sgrin ac yna ‘Newid E-bost’ o’r gwymplen.
Wrth gofrestru i weld manylion eich cyfrif treth gyngor, gofynnir i chi nodi rhif cyfeirnod ac ateb ychydig o gwestiynau diogelwch. Rhaid i’r manylion hyn gyd-fynd â’r wybodaeth ar eich bil treth gyngor diweddaraf.
Sicrhewch fod gennych eich bil treth gyngor diweddaraf wrth law.
Cwblhewch ein ffurflen ‘cysylltwch â ni’ os nad ydych yn gallu dod o hyd iddo:
- Dewiswch ‘Treth Gyngor’ o’r gwymplen
- yna ‘Ble alla i ddod o hyd i fy rhif cyfeirnod?’
Os ydych yn talu trwy ddebyd uniongyrchol, mae eich rhif cyfeirnod treth gyngor ar eich cyfriflen banc ochr yn ochr â’r taliad.
Rhaid prosesu taliadau a chân nhw eu hychwanegu at eich cyfrif o fewn diwrnod gwaith.
Cofiwch hynny pan welwch chi'r balans ar Fy Nghyfrif.
Gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i dynnu symiau o’ch cyfrif banc.
Ni fydd yn bosibl gweld manylion eich cyfrif heb eich rhif cyfeirnod.
Os ydych chi’n cael budd-daliadau, ni fydd modd gweld eich cofnodion budd-daliadau heb eich rhif cyfeirnod neu rai manylion personol – er enghraifft, eich Rhif Yswiriant Gwladol.
Os na allwch ddod o hyd i’ch cyfeiriad:
- Dewiswch ‘Methu dod o hyd i’r cyfeiriad’
- teipiwch eich cyfeiriad
Os yw rhai o’ch manylion yn anghywir, mae modd eu newid yn Fy Nghyfrif:
- Dewiswch ‘Croeso i Fy Nghyfrif’
- yna ‘Fy Mhroffil’ o’r gwymplen
Os oes unrhyw fanylion ar eich bil yn anghywir, anfonwch e-bost at taxation@bridgend.gov.uk gan nodi rhif cyfeirnod eich treth gyngor a pha newidiadau y dylid eu gwneud.
Dyw'r meysydd ddim yn gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach. Gallwch chi ddefnyddio'r ddau.
Bydd rhaid dechrau eto ar ôl 15 munud o ddiffyg gweithredu.
Ni fydd Fy Nghyfrif ar gael yn achlysurol wrth i ni roi ein data wrth gefn.
Byddwn ni’n cyhoeddi neges ar y wefan i roi gwybod i chi am ba hyd na fydd ar gael.
Os ydych yn cael trafferth defnyddio Fy Nghyfrif oherwydd problem hygyrchedd fel nam ar y golwg, cysylltwch â: