Mae cofrestriadau ar gyfer Casgliadau Gwastraff yr Ardd 2025/26 nawr ar agor – Cofrestrwch ar-lein
Mapiau - System Gwybodaeth Ddaearyddol
Mae ein System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn caniatáu i chi edrych ar wybodaeth leol ar fap, megis dalgylchoedd ysgolion, cynghorwyr lleol, canolfannau hamdden a safleoedd bysiau.
Gallwch ddefnyddio'r ffwythiant map er mwyn rhyngweithio'n uniongyrchol gyda'r map, dod o hyd i'r ffordd a chael gwybodaeth ychwanegol!
Er mwyn closio, yn syml dewiswch '+' i glosio i mewn a '-' i symud allan.
Gwybodaeth wedi'i theilwra
Mae'r ffwythiant Gwybodaeth Leol yn caniatáu i chi chwilio gan ddefnyddio eich cyfeiriad neu god post i ddod o hyd i:
- Dalgylch eich ysgol a'ch ysgolion agosaf
- Eich cynghorydd lleol
- Eich wardiau etholiadol
- Eich llyfrgell leol
- Eich canolfannau ailgylchu agosaf
- Gorsaf drenau agosaf:
- Eich canolfannau hamdden lleol
Gwybodaeth ar draws y fwrdeistref
Mae ein hadran Ffwythiant Map yn caniatáu i chi edrych ar wybodaeth ar draws y fwrdeistref sirol:
- Hawl Tramwy Cyhoeddus a llwybrau teithio Llesol
- Ffiniau wardiau etholiadol
- Ceisiadau cynllunio
- Cynghorau tref a chymuned
- Gorsafoedd trên a bws
- Ardaloedd Cadwraeth
- A llawer mwy!
Chwilio
Er mwyn chwilio am leoliad, rhowch y cyfeiriad llawn neu god post a dewiswch y cyfeiriad cywir.
Bydd yna arwydd pin gwyrdd ar y map yn y cyfeiriad y gwnaethoch ei ddewis.
Nodwch os gwelwch yn dda: Os nad yw'r cyfeiriad yn bodoli, bydd neges yn dweud hynny yn cael ei arddangos.