Adrodd am eiddo gwag

Eiddo preswyl sector preifat sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy yw eiddo gwag. Nid yw pob adeilad yn cyd-fynd â’r diffinaid hwn, ond maent yn rhan o hyd o’r strategaeth i leihau eiddo gwag a chynyddu argaeledd tai.

Maent yn cynnwys:

  • eglwysi
  • capeli
  • eiddo di-breswyl arall y gellir ei drawsnewid yn llety preswyl fel eiddo masnachol

Mae’n bosib ailddechrau defnyddio eiddo gwag drwy ei rentu, ei werthu neu ei arwerthu, neu drwy i’r perchnogion eu hunain symud i mewn. 

Adrodd am eiddo gwag

Er mwyn adrodd am eiddo gwag, llenwch y ffurflen ar-lein:

Mae llawer o resymau pam gall eiddo fod yn wag ac mae rhai o’r rhesymau mwyaf cyffredin wedi’u nodi isod:

  • eiddo sy’n aros am newid perchnogaeth
  • does gan y perchnogion ddim gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer gwneud defnydd o’r eiddo unwaith eto
  • yr eiddo wedi cael ei adael yn wag am fod y perchennog wedi symud i ofal preswyl
  • oedi neu anghydfod wrth weinyddu'r ystâd pan mae'r perchennog wedi marw
  • problemau ymddangosiadol gyda rhentu'r eiddo
  • perchennog yn aros am gynnydd pellach yn y farchnad cyn gwerthu
  • gall costau adnewyddu fod yn uwch mewn eiddo hŷn sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir
  • nid yw’r perchnogion yn ymwybodol eu bod yn berchen ar eiddo neu maent yn byw yn rhywle arall

Fel rheol, mae’n hawdd adnabod eiddo sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir gan ei fod mewn cyflwr gwael neu wedi cael ei esgeuluso o bosib. Dyma rai pethau i sylwi arnynt efallai:

  • llawer iawn o bost heb gael ei gasglu y tu mewn i’r drws ffrynt.
  • yr ardd heb gael ei chynnal a’i chadw neu sbwriel wedi cael ei daflu a heb ei glirio.
  • arwyddion o ddadfeilio a difrod allanol heb gael eu trin. Er enghraifft; ffenestri wedi torri, graffiti neu do wedi’i ddifrodi.
  • mae’r eiddo wedi cael ei fordio. Er enghraifft; griliau pren neu fetel wedi cael eu gosod ar y drysau a’r ffenestri.
  • golau heb ei ddiffodd a neb yn ymweld â’r eiddo.
  • efallai bod y cymdogion yn gwybod rhywbeth am yr eiddo. Mae’n werth gofyn i’r cymdogion beth maent yn ei wybod am yr eiddo a’i berchennog ac ers faint maent yn cofio’r eiddo yn wag.
  • efallai bod y cyngor yn gwybod am yr eiddo gwag. Cysylltwch â’r awdurdod lleol y mae’r eiddo wedi’i leoli ynddo. Gall y cyngor edrych i weld a yw’r eiddo wedi’i restru yn ei gofnodion fel eiddo gwag tymor hir.

Os ceir cyfuniad o’r ffactorau uchod, y siawns yw bod yr eiddo’n eiddo gwag yn y tymor hir.

Dod o hyd i berchennog absennol/anhysbys yw’r cam cyntaf tuag at ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Mae’r camau canlynol yn amlinellu’r camau y gallwch eu cymryd er mwyn dod o hyd i enw a lleoliad perchennog.

  1. Siarad gyda phobl yn y gymuned, e.e. cymdogion neu grwpiau cymunedol, gan fod siawns y byddant yn gwybod rhywbeth am y perchennog.
  2. Gosod hysbysiad ar ddrws yr eiddo gwag yn dweud yr hoffech gysylltu â’r perchennog.
  3. Gallech archwilio’r Gofrestrfa Tir. Bydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth am bob perchennog pob darn o dir cofrestredig. Dyma ffordd ddefnyddiol o ddod o hyd i enw’r perchennog, ond mae’r cyfeiriad sydd wedi cael ei nodi’n debygol o fod y cyferiaid ar gyfer yr eiddo gwag.
  4. Pan fyddwch yn gwybod enw’r perchennog, gallwch ddefnyddio nifer o wefannau i gael cymorth i ddod o hyd iddo.
  5. Os yw perchennog yr eiddo gwag wedi marw a bod anghydfod ynghylch yr ewyllys neu os nad oes etifeddion yn ei hawlio, gall yr eiddo fod ‘mewn limbo’. Mae hyn yn digwydd wrth geisio sefydlu pwy yw’r perchennog newydd a bydd marc cwestiwn ynghylch pwy sy’n gyfrifol am yr eiddo.

Rydym yn cydweithio â pherchnogion eiddo gwag er mwyn dechrau gwneud defnydd ohonynt eto. Fodd bynnag, mae ambell eiddo’n parhau’n wag, mewn cyflwr gwael ac yn niweidiol neu’n niwsans i’r gymuned. Yn yr achosion hyn, mae’n bosib y byddwn yn defnyddio ein pwerau deddfwriaethol i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio unwaith eto.

Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • gorfodi gwerthiant
  • caffael gwirfoddol
  • gorchmynion rheoli eiddo gwag
  • gorchmynion prynu gorfodol

Bydd eich adroddiad yn cael ei brosesu o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd y tîm tai sector preifat yn ceisio gweithio’n agos gyda pherchennog yr eiddo gwag er mwyn ei annog i wneud defnydd o’r eiddo unwaith eto.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw gadael eiddo yn wag yn drosedd ac nid yw’n bosib cymryd camau gorfodi bob amser. Dim ond fel dewis olaf y gellir mynd ati i orfodi, pan mae’r eiddo’n achosi niwsans neu niwed i ardal.

Chwilio A i Y

Back to top