Dolenni cysylltiedig
- Adroddwch am gerbyd wedi’i adael
- Adrodd am eiddo gwag
- Rhowch wybod am dipio anghyfreithlon
- Adrodd twyll
- Rhowch wybod am graffiti
- Rhowch wybod am daflu sbwriel
Mae’n drosedd i berchnogion cŵn beidio â chodi baw eu ci.
Fel cosb, gallai fod rhaid talu dirwy cosb benodedig neu gallech gael gwŷs dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996.
Os ydych chi’n mynd â chi am dro ac mae’n creu gwastraff mewn man cyhoeddus, eich cyfrifoldeb chi yw ei godi. Os ydych yn methu gwneud hyn, gallech chi dderbyn Hysbysiad Cosb Benodol o £100, neu gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £1,000.
Os ydych chi wedi gweld rhywun yn peidio â chodi baw ei gi, gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni:
Mae cael gwared ar wastraff eich ci yn gyhoeddus yn hawdd. Codwch y gwastraff gan ddefnyddio bag, ac wedyn ei roi mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus neu fynd ag ef adref a’i roi yn eich sach tirlenwi.
Mae baw cŵn yn amhleserus, peryglus a niweidiol. Mae peidio â glanhau ar ôl anifeiliaid anwes yn creu risg i bawb o glefydau a heintiau posib a all eu gwneud yn ddall.
I dargedu perchnogion anghyfrifol, rydym wedi pasio Gorchymyn Gwarchod Gofod Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn. Ym mhob gofod cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol, mae’n datgan yr amodau hyn ar gyfer perchnogion sydd â chŵn o dan eu rheolaeth:
Nid yw rheolau’r gorchymyn yn berthnasol i berson ag anabledd fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 pan fodlonir yr holl amodau canlynol: