Ceisiadau rhyddid gwybodaeth
Yn dilyn penderfyniad y Tribiwnlys Hawliau Gwybodaeth Haen Gyntaf EA/2018/0033, nid yw'r Awdurdod bellach yn cyhoeddi data ardrethi busnes ar ei dudalen we data agored. Ni fydd bellach yn datgelu gwybodaeth am gyfrifon ardrethi busnes mewn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Er mwyn hyrwyddo bod yn agored ac yn dryloyw, rydym yn ymrwymedig i gyhoeddi symiau cynyddol o’n data. Nid oes rhaid i chi ofyn i ni am ganiatâd i ailddefnyddio ein data, ond mae’n rhaid i chi dderbyn telerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Efallai y byddwch hefyd eisiau gweld dogfen ganllaw yr Archifau Cenedlaethol.
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Rhyddid Gwybodaeth) yn caniatáu i unrhyw un ofyn am gofnodion a gedwir gan awdurdodau lleol yng Nghymru, yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal ag adrannau’r llywodraeth. Gall ddatgelu sut y mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau, yn ogystal â chynnal neu ffurfio gwasanaethau. I weld crynodeb o’r sefydliadau yr effeithir arnynt, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gweithredu ochr yn ochr â’r Ddeddf Diogelu Data, sy’n galluogi pobl i gael gafael ar wybodaeth amdanynt eu hunain megis cofnodion personol, neu ddata a gedwir gan asiantaethau gwirio credyd. Mae hefyd yn cydweithio â’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, sy’n rhyddhau gwybodaeth am yr amgylchedd.
Gofyn am wybodaeth
Mae gan yr holl awdurdodau Gynllun Cyhoeddi dan y ddeddf . Mae’r cynllun yn rhestru gwybodaeth a ryddheir yn rheolaidd, a lle y gellir dod o hyd i’r wybodaeth, gyda manylion cyswllt ar gyfer adrannau perthnasol. I wneud cais:
- Edrychwch ar y Cynllun Cyhoeddi am wybodaeth sydd eisoes wedi’i chyhoeddi. Cyfeiriwn at wybodaeth o’r fath fel ‘busnes fel arfer’, a gallwch gael gafael ar y wybodaeth hon o ble a nodir yn y cynllun.
- Os nad yw’r wybodaeth yn y Cynllun Cyhoeddi, gallwch ofyn amdani. Cofiwch fod modd i chi ofyn am yr ymateb mewn fformat penodol. Er enghraifft, efallai yr hoffech fersiwn electronig neu bapur, ac fel gyda phobl anabl, gall fod gennych hawl i dderbyn fformatau penodol. Os felly, trafodwch eich anghenion gyda’r adran berthnasol yn gyntaf.
- Mae’n rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig ar ffurf llythyr neu drwy e-bost. Nodwch yn glir yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Gall fod yn wybodaeth gofnodedig o unrhyw fath megis e-byst, llyfrau nodiadau, fideos neu dapiau. Nodwch eich enw a’ch manylion cyswllt. Nid oes angen i chi nodi pam eich bod chi eisiau’r wybodaeth.
- Fel arfer, mae’n rhaid i ni ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais. Os nad oes modd i ni wneud hyn, byddwn yn nodi pam ac yn dweud wrthych pryd i ddisgwyl ymateb.
Cost gwneud cais am wybodaeth
Fel arfer gellir darparu gwybodaeth yn rhad ac am ddim, ond efallai weithiau y bydd rhaid i chi dalu ffi ar gyfer:
- costau gweinyddol
- costau ffotocopïo neu bostio
- dod o hyd i’r wybodaeth a’i chyflenwi
Rhoddir gwybod i chi ymlaen llaw os oes ffi.
Ceisiadau am wybodaeth a wrthodwyd
Byddwn yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani, oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Er enghraifft, efallai y bydd eich cais yn ymwneud â manylion personol rhywun arall, ac mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhestru unrhyw eithriadau.
Mae’n rhaid i ni nodi pam ein bod wedi gwrthod cais. Gallwch ofyn i ni ailystyried, ac os cewch eich gwrthod eto, gallwch ofyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am adolygiad.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gorff annibynnol sy’n gorfodi’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Ddeddf Diogelu Data, a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. I ddysgu mwy, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.