Swyddi Gofal Cymdeithasol

Mae ein gweithwyr gofal yn helpu pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosibl, o fewn eu cartref neu sefydliadau preswyl eu hunain.

Rydym yn darparu gofal i bobl hŷn, oedolion gydag anableddau dysgu, a phlant a phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gofalu am eraill yn rôl werth chweil, gan gefnogi eraill i fyw bywydau mwy boddhaus. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i hyfforddi fel gweithiwr gofal.

Croesewir profiad, ond nid yw'n angenrheidiol; credwn mai sut un ydych chi fel person, a'r gwahaniaeth allwch chi ei wneud, sy'n bwysig.

"Wnes i erioed fwriadu cael gyrfa ym maes gofal, ac fe lwyddais i symud yn fy mlaen yn bennaf oherwydd fy mod i'n chwilio am y sialens nesaf, ond fel mae'n digwydd, dyna'r symudiad gorau wnes i erioed."
Two people sitting on the sofa talking

Gwasanaethau gofal cymdeithasol

Gofal preswyl oedolion

Gofal Preswyl Oedolion

Mae ein gweithwyr cymdeithasol oedolion yn helpu pobl gyda phob agwedd ar eu bywydau bob dydd.

Nid yn unig y mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol oedolion yn rôl werth chweil yn emosiynol, mae’n un o’r rolau mwyaf amrywiol hefyd. Mae gweithio gydag amrywiaeth o bobl gyda gwahanol anghenion gofal yn golygu bod pob diwrnod yn wahanol i'r nesaf.

Gofal cymdeithasol plant

Gofal Cymdeithasol Plant

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol plant yn gofalu am lesiant corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc mewn gofal.

Mae gweithiwr gofal plant, neu weithiwr plant, yn arbenigo mewn helpu plant bregus gydag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol i reoli eu gweithgareddau bob dydd a’u cadw’n ddiogel.

Gofal cymdeithasol cymunedol

Gofal Cymdeithasol Cymunedol

Mae gweithwyr cefnogi gofal cartref yn helpu pobl sydd angen cymorth ychwanegol i fyw’n annibynnol, gan ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i theilwra ar gyfer anghenion unigol; gan hyrwyddo a galluogi annibyniaeth ac annog pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.

Manteision gweithio gyda ni ym maes Gofal Cymdeithasol

Trwy ymuno â ni gallwch elwa o gyfraddau tâl uwch, hyfforddiant a chymwysterau, cyfleoedd a all arwain at waith cymdeithasol a nyrsio, ac oriau gwaith addas i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau eraill.

Mae buddion eraill yn cynnwys:

  • Un o'r rolau mwyaf poblogaidd a boddhaus yn y DU.
  • Y cyfle i hyfforddi wrth i chi ddysgu.
  • Datblygiad gyrfa parhaus, cymwysterau a chyfleoedd hyfforddiant achrededig.
  • Hyblygrwydd ac opsiynau gweithio hybrid.
  • Diogelwch swydd a chyflogaeth hirdymor.
  • Strwythur rheoli cefnogol.
  • Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill
Social care group photo

Swyddi gwag diweddaraf

Cyflog: £13.05 yr awr. Bydd yr oriau a weithir ar benwythnosau/gwyliau banc yn cael eu talu ar £17.78 yr awr. Gwaith nos: £17.40 yr awr. Bydd yr oriau a weithir ar benwythnosau/gwyliau banc yn cael eu talu ar £21.75 yr awr

Dyddiad cau: 19/03/2025

Cyflog: £13.26 yr awr yn yr wythnos £17.80 yr awr ar y penwythnos Nosweithiau £17.40 yr awr yn yr wythnos £21.75 yr awr ar y penwythnos

Dyddiad cau: 26/03/2025

Cyflog: £25,183 y flwyddyn

Dyddiad cau: 19/03/2025

Cyflog: £27,711 - £28,624 y flwyddyn

Dyddiad cau: 02/04/2025

Cyflog: £36,124 - £44,711 y flwyddyn. Pennir man cychwyn yn unol â'r Fframwaith Dilyniant Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau: 26/03/2025

Cyflog: £42,708 - £44,711 y flwyddyn

Dyddiad cau: 02/04/2025

Cyflog: £54,929 - £55,996 y flwyddyn

Dyddiad cau: 02/04/2025

Cyflog: £45,718 - £47,754 y flwyddyn

Dyddiad cau: 19/03/2025

Chwilio A i Y

Back to top