Swyddi Gofal Cymdeithasol
Mae ein gweithwyr gofal yn helpu pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosibl, o fewn eu cartref neu sefydliadau preswyl eu hunain.
Rydym yn darparu gofal i bobl hŷn, oedolion gydag anableddau dysgu, a phlant a phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gofalu am eraill yn rôl werth chweil, gan gefnogi eraill i fyw bywydau mwy boddhaus. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i hyfforddi fel gweithiwr gofal.
Croesewir profiad, ond nid yw'n angenrheidiol; credwn mai sut un ydych chi fel person, a'r gwahaniaeth allwch chi ei wneud, sy'n bwysig.
"Wnes i erioed fwriadu cael gyrfa ym maes gofal, ac fe lwyddais i symud yn fy mlaen yn bennaf oherwydd fy mod i'n chwilio am y sialens nesaf, ond fel mae'n digwydd, dyna'r symudiad gorau wnes i erioed."
Gwasanaethau gofal cymdeithasol
Gofal Preswyl Oedolion
Mae ein gweithwyr cymdeithasol oedolion yn helpu pobl gyda phob agwedd ar eu bywydau bob dydd.
Nid yn unig y mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol oedolion yn rôl werth chweil yn emosiynol, mae’n un o’r rolau mwyaf amrywiol hefyd. Mae gweithio gydag amrywiaeth o bobl gyda gwahanol anghenion gofal yn golygu bod pob diwrnod yn wahanol i'r nesaf.
Gofal Cymdeithasol Plant
Mae gweithwyr gofal cymdeithasol plant yn gofalu am lesiant corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc mewn gofal.
Mae gweithiwr gofal plant, neu weithiwr plant, yn arbenigo mewn helpu plant bregus gydag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol i reoli eu gweithgareddau bob dydd a’u cadw’n ddiogel.
Gofal Cymdeithasol Cymunedol
Mae gweithwyr cefnogi gofal cartref yn helpu pobl sydd angen cymorth ychwanegol i fyw’n annibynnol, gan ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i theilwra ar gyfer anghenion unigol; gan hyrwyddo a galluogi annibyniaeth ac annog pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.
Manteision gweithio gyda ni ym maes Gofal Cymdeithasol
Trwy ymuno â ni gallwch elwa o gyfraddau tâl uwch, hyfforddiant a chymwysterau, cyfleoedd a all arwain at waith cymdeithasol a nyrsio, ac oriau gwaith addas i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau eraill.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
- Un o'r rolau mwyaf poblogaidd a boddhaus yn y DU.
- Y cyfle i hyfforddi wrth i chi ddysgu.
- Datblygiad gyrfa parhaus, cymwysterau a chyfleoedd hyfforddiant achrededig.
- Hyblygrwydd ac opsiynau gweithio hybrid.
- Diogelwch swydd a chyflogaeth hirdymor.
- Strwythur rheoli cefnogol.
- Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill
Swyddi gwag diweddaraf
Gweithiwr Domestig - Wedi'i ddadansoddi
Cyflog: Gwaith Domestig £13.45 yr awr Gwaith Gofal Cymdeithasol £14.14 yr awr Gwaith Gofal Nos £18.56 yr awr yn ystod yr wythnos £23.20 yr awr ar y penwythnos
Dyddiad cau: 14/10/2026
Gweithiwr Gofal Cymorth yn y Cartref - Gwasanaethau Darparwyr
Cyflog: £14.14 yr awr yn yr wythnos £18.25 yr awr ar y penwythnos
Dyddiad cau: 21/10/2026
Gweithiwr Gofal Cymdeithasol - Breakaway
Cyflog: Diwrnodau (gradd 6) £14.59 yr awr yn yr wythnos £19.45 yr awr ar y penwythnos Nosweithiau (gradd 4) £18.16 yr awr yn yr wythnos £23.20 yr awr ar y penwythnos
Dyddiad cau: 14/10/2026
Rheolwr Gwasanaethau Darparwyr - Preswyl a Gofal Ychwanegol
Cyflog: £58,558 - £59,695 y flwyddyn
Dyddiad cau: 28/10/2026
Gweithiwr Preswyl - Arweinydd Shifft - Tŷ Hillsboro
Cyflog: £24,127 - £24,938 y flwyddyn
Dyddiad cau: 21/10/2026
Darpar Reolwr Tîm (Dros Dro) - Mewnol yn Unig
Cyflog: £23,952 - £24,741 y flwyddyn
Dyddiad cau: 14/10/2026
Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd - Camfanteisio
Cyflog: £32,578 - £33,673 y flwyddyn
Dyddiad cau: 15/10/2026