Ymgynghoriad y Cynllun Adneuo
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Rydym eisiau eich barn ar ein Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd. Cynllun Meistr yw hwn a ddefnyddir i benderfynu pa fathau o ddatblygiadau all ddigwydd ledled yr ardal rhwng nawr a 2033.
Mae'r CDLl, sydd yn y cam adneuo drafft ar hyn o bryd, yn cynnwys yr holl bolisïau y bydd yr awdurdod yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.
Mae'n nodi sut gellir defnyddio tir, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol fydd yn cael eu cynnal fel mannau agored neu eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, cymunedol a thwristiaeth.