Amserlen newydd ar gyfer gwaith ar gyrtiau tennis ym Mharc Griffin

Dydd Llun 06 Tachwedd 2023

Mae’r gwaith i sefydlu dau gwrt tennis newydd ym Mharc Griffin ym Mhorthcawl wedi cael ei oedi am gyfnod byr tra bod pwynt mynediad ffurfiol i gontractwyr i'r safle yn cael ei sefydlu.

Mae angen y pwynt mynediad, a fydd yn cynnwys palmentydd is newydd, fel y gall contractwyr symud peiriannau ac offer trwm yn ddiogel ar y safle ac oddi arno, gan achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl ar gyfer trigolion a busnesau lleol.

Wedi’u dylunio i ddarparu mynediad i gyfleusterau tennis modern i gymunedau lleol ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon fel ffordd o wella eu hiechyd a’u llesiant, mae’r cyrtiau newydd ym Mharc Griffin yn nodi cyfnod olaf prosiect sydd werth cyfanswm o £520,000.

Maent yn dilyn cyfleusterau tebyg sydd eisoes wedi cael eu darparu mewn mannau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys Parc Llesiant Maesteg, Heol-Y-Cyw a Pharc Caedu ym Mro Ogwr.

Bydd y cyrtiau tennis newydd yn cael eu hadeiladu ar y cyn gae bowlio ger Canolfan Gymunedol Parc Griffin i sicrhau na fyddant yn cael eu heffeithio gan gynigion adfywio eraill sy’n awyddus i ddyblu maint y parc ac ailddatblygu llawer o'r ardal gyfagos, gan gynnwys y cyrtiau tennis cyfredol, y disgwylir iddynt gael eu digomisiynu.

Unwaith y byddant wedi’u hadeiladu, bydd y cyrtiau newydd yn cynnwys arwyneb, rhwydi a ffensys newydd sbon, systemau giatiau a mynediad gwell, a chyrtiau wedi’u paentio’n ffres. Maent yn cael eu sefydlu fel rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Tref Porthcawl a’r Lawn Tennis Association.

Tra bydd sefydlu pwynt mynediad ffurfiol yn achosi cyfnod byr o oedi cyn dechrau’r gwaith, bydd hefyd yn profi i fod yn fwy cyfleus o lawer ac yn helpu i leihau amhariadau yn ystod y gwaith o adeiladu'r cyrtiau tennis newydd. Mae amserlen newydd yn cael ei chadarnhau ar gyfer y prosiect ar hyn o bryd, sy’n buddsoddi mwy na £191,000 i’r gwaith Parc Griffin i sicrhau y gall cymuned Porthcawl barhau i fwynhau ac elwa o gyfleusterau tennis modern. Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Porthcawl a’r Lawn Tennis Association am eu cefnogaeth wrth ddarparu’r cyfleusterau newydd hyn ar gyfer yr ardal.

Chwilio A i Y

Back to top