Arian Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i gynlluniau teithio llesol lleol
Dydd Iau 06 Gorffennaf 2023
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael £1.5m i hwyluso llwybrau teithio llesol newydd a gwell ledled y fwrdeistref sirol. Bydd y gwelliannau’n cynnwys adeiladu llwybrau teithio llesol newydd, gwaith ymgynghori ar gyfer datblygu’r cynllun yn y dyfodol, a gwaith hyrwyddo.
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £58m mewn llwybrau teithio llesol ledled Cymru, mewn ymgais i annog pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy ar gyfer teithiau byr, megis cerdded neu feicio.
Yn ôl y Dirprwy Weinidog, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Mae cerdded a beicio’n cynnig ymateb ymarferol a hanfodol i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau amgylcheddol a’i thargedau iechyd.
Mae’r Ddeddf Teithio Llesol yn rhoi pwysau arnom i ddarparu rhwydweithiau teithiol llesol o’r radd flaenaf – rhwydweithiau a fydd yn annog mwy a mwy o bobl i gerdded a beicio’n rheolaidd yn hytrach na defnyddio’r car.”
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael £1.5m i hwyluso llwybrau teithio llesol newydd a gwell ledled y fwrdeistref sirol. Bydd y gwelliannau’n cynnwys adeiladu llwybrau teithio llesol newydd, gwaith ymgynghori ar gyfer datblygu’r cynllun yn y dyfodol, a gwaith hyrwyddo. Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £58m mewn llwybrau teithio llesol ledled Cymru, mewn ymgais i annog pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy ar gyfer teithiau byr, megis cerdded neu feicio. Yn ôl y Dirprwy Weinidog, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Mae cerdded a beicio’n cynnig ymateb ymarferol a hanfodol i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau amgylcheddol a’i thargedau iechyd. Mae’r Ddeddf Teithio Llesol yn rhoi pwysau arnom i ddarparu rhwydweithiau teithiol llesol o’r radd flaenaf – rhwydweithiau a fydd yn annog mwy a mwy o bobl i gerdded a beicio’n rheolaidd yn hytrach na defnyddio’r car.”