Cabinet y Cyngor yn cymeradwyo polisi i ddiogelu arian y rhai sy'n derbyn gofal
Dydd Llun 29 Gorffennaf 2024
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr newydd gymeradwyo'r 'Polisi Cefnogi Unigolion i Reoli eu Harian', a luniwyd er mwyn cefnogi darpariaeth Gofal Uniongyrchol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth gynorthwyo preswylwyr sy'n derbyn gofal i reoli eu harian.
Mae'r polisi diweddaraf sy'n cwmpasu Gwasanaethau Oedolion a Phlant, wedi'i lywio gan amrywiaeth o adnoddau, yn cynnwys cyfarfodydd a thrafodaethau รข staff o bob cwr o'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal ag adolygiad o'r ddeddfwriaeth gyfredol.
"Mae hwn yn bolisi pwysig sy'n nodi gweithdrefnau diwygiedig i ddiogelu arian y rhai sy'n derbyn gofal a chymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol." "Mae'r polisi hwn, sy'n cynnig cysondeb ac eglurder, yn ofyniad statudol o ran cefnogi ein hunigolion bregus o bob cefndir i reoli eu materion ariannol." "Mae'n hanfodol sicrhau bod yr unigolion hyn yn derbyn y gefnogaeth maent yn ei haeddu i reoli eu harian, gan roi tawelwch meddwl i bawb dan sylw."