Cyllid Llywodraeth Cymru yn hwyluso tai cymdeithasol newydd yn y Pîl

Dydd Mawrth 12 Medi 2023

Mae safle hen dafarn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, The Old Crown Inn yn y Pîl, a ddymchwelwyd yn 2018, wedi cael ei drawsnewid i gynnig tai cymdeithasol newydd, gan ddarparu llety byw deniadol a fforddiadwy.

Mewn partneriaeth â Linc Cymru a chan ddefnyddio cyllid o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, mae'r cyngor wedi cefnogi i gwblhau pedwar cartref newydd sydd wedi’u hadeiladu gan Castell Group - cwmni datblygu eiddo sy’n arbenigo mewn darparu tai cymdeithasol, fforddiadwy ac wedi’u haddasu yn ardal De Cymru.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cwblhau’r pedwar tŷ cymdeithasol hyn, y mae mawr eu hangen,” meddai Dorian Payne, Rheolwr Gyfarwyddwr Castell Group. “Bydd yr eiddo hyn yn darparu llety fforddiadwy, o ansawdd uchel, i deuluoedd.”

Mae'r cartrefi’n elwa ar dair ystafell wely, yn ogystal ag ardaloedd byw hael, ystafelloedd ymolchi i lawr y grisiau a digonedd o le parcio. Mae'r eiddo wedi’u cynllunio i gyflawni'r ardystiad effeithlonrwydd ynni uchaf (EPC A), sy’n golygu y bydd gan denantiaid gostau tanwydd is.  Gosodwyd gwres trydan yn yr eiddo yn hytrach na nwy, ac mae paneli solar PV ar y to yn hyrwyddo datgarboneiddio, yn ogystal â lleihau allyriadau CO2.

Rydym wedi darparu £600,000 o’n dyraniad Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad y pedwar eiddo modern hyn yn y Pîl. Gan ddarparu'r cyfleusterau diweddaraf, gyda safleoedd wedi’u haddasu, yn ogystal â rhoi ystyriaeth i’r heriau hinsawdd sy’n ein hwynebu yn fyd-eang, mae'r adeiladau newydd hyn yn gaffaeliaid gwych i’r ardal. Mae’n braf iawn ein bod wedi gallu trawsnewid y safle yn gartrefi o ansawdd uchel i deuluoedd eu mwynhau. Gyda galw cynyddol am dai ledled y fwrdeistref, mae’n braf gweld cartrefi newydd, carbon effeithlon yn cael eu hagor i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Eiddo a Masnachol Linc Cymru, Louise Attwood: “Rydym yn frwd dros greu amgylcheddau lle all pobl ffynnu.  Bydd y cartrefi newydd hyn yn rhoi lle diogel braf i deuluoedd fyw ynddo.”

Chwilio A i Y

Back to top