Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023-24 yn blaenoriaethu lles cymunedol

Dydd Mercher 01 Mawrth 2023

Mae cyllideb sydd â’r nod o gefnogi teuluoedd, hyrwyddo lles ac amddiffyn aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned leol drwy’r argyfwng costau byw parhaus wedi’i chymeradwyo ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y gyllideb, sydd wedi’i galw’n ‘gyllideb Lles’ gan uwch aelodau’r Cyngor, yn golygu bod gan yr awdurdod lleol gyllideb refeniw gros o £485m, cyllideb net o £342m a rhaglen fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £69m ar gyfer 2023-24.

Er mwyn ariannu pwysau cyllidebol ychwanegol a gwneud yn iawn am ddiffyg cyllidol o £8m, cytunwyd ar gynnydd o 4.9 y cant yn y dreth gyngor - sy’n llai na’r 6 y cant a awgrymwyd yn flaenorol. Mae hyn gyfystyr ag £1.50 yn ychwanegol yr wythnos i eiddo Band D cyfartalog.

Bydd cyllid cynyddol o fwy na £12m yn cael ei fuddsoddi i wasanaethau hanfodol a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ar gyfer 2023-24, gan fynd â chyllideb gyffredinol y gyfarwyddiaeth i fyny i £92.79m.

Bydd hyn yn cynnwys £26m i wasanaethau ar gyfer pobl hŷn, £24.1m ar gyfer gofal cymdeithasol i blant, £21m ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a £5.7m ar gyfer gwasanaethau sy’n gofalu am les pobl, cynnal eu hannibyniaeth a’u hatal rhag bod angen rhagor o gefnogaeth cyn hired ag sy’n bosibl.  

Bydd mwy na £5.5m yn cefnogi oedolion ag anableddau corfforol a namau synhwyrol, a defnyddir £5.2m i reoli a darparu gwasanaethau ar gyfer oedolion. Bydd £4.8m ar gael i helpu oedolion ag anghenion iechyd meddwl.

Bydd cyfanswm o £692,000 yn cael ei fuddsoddi i ddiweddaru a gwella gwasanaethau teleofal i bobl hŷn - prosiect sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol gartref gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i fonitro lles a’u helpu i gadw’n ddiogel.                                                                                 

Mae’r cyngor hefyd yn parhau i fuddsoddi i’r gweithlu gofal cymdeithasol, gydag ymgyrchoedd recriwtio parhaus yn annog staff i fwynhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, tra’n cael cefnogaeth a hyblygrwydd llwyr wrth eu gwaith, cyfleoedd hyfforddiant a datblygu, rhagolygon gyrfa da a mwy.  

Bydd gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn derbyn mwy na £137m o’r gyllideb gyffredinol, gyda £110m yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion i gefnogi costau rhedeg, cyflogau staff ac athrawon a mwy.  

Er bod oddeutu £40,000 yn cael ei arbed drwy ddirprwyo rhai cyfrifoldebau trafnidiaeth i ddarparwyr, gofynnir i ysgolion gyflawni arbedion o £2.1m ar gyfer 2023-24. Ar yr un pryd, mae’r cyngor yn bwriadu buddsoddi £7.3m yn ychwanegol i ysgolion i ariannu’r holl bwysau cyflogau a chostau chwyddiant ysgolion.

Bydd buddsoddiad cyfalaf gwerth £26.9m yn galluogi’r cyngor i ddarparu gwelliannau sy’n cynnwys bloc addysgu newydd gwerth £1.6m yn Ysgol Gyfun Bryntirion, £950,000 ar gyfer estyniadau yn ysgolion cynradd Coety a Phencoed, a £1.1m ar gyfer darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont a Phorthcawl.  

Gyda dros £1.9m i gefnogi adfywiad parhaus ceginau ysgolion a chyflwyniad prydau ysgol am ddim, bydd £386,000 yn cael ei fuddsoddi i gae chwarae bob tywydd yn Ysgol Brynteg, yn ogystal â £220,000 i ddarparu dosbarthiadau symudol o safon uchel yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.

Mae’r cyngor eisoes wedi gwario £21.6m yn adeiladu ac yn adnewyddu ysgolion yn rhan o Fand A o’i raglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac mae wedi ymrwymo i £19m pellach yn rhan o Band B. Mae dros £10.5m wedi’i bennu ar gyfer ysgolion Band B yn 2023-24, yn ogystal â £3,300 ar gyfer cynlluniau priffyrdd cysylltiedig.

Bydd Ysgol Gynradd Abercerdin yn derbyn £267,000 i sefydlu hyb dysgu newydd, a bydd £71,000 yn cael ei fuddsoddi i waith diogelwch traffig o amgylch ysgolion lleol. Bydd ysgolion hefyd yn derbyn mwy na  £3.9m drwy’r grant cynhaliaeth cyfalaf, a bydd £548,000 yn cefnogi gwaith i’w helpu i ddatblygu rhagor o gyfleusterau all gael eu rhannu â’r gymuned leol.  

Yn rhannau eraill o’r Cyngor, bydd gwasanaethau a ddarperir gan y gyfarwyddiaeth Cymunedau yn derbyn £30.55m yn ogystal â dros £30.3m mewn buddsoddiadau cyfalaf drwy’r flwyddyn.

Bydd hyn yn cynnwys £1.7m ar gyfer parhau i ddiweddaru meysydd chwarae i blant a’u gwneud nhw’n fwy hygyrch, £1m ar gyfer adnewyddu priffyrdd, a £2.9m ar gyfer adnewyddu parhaus ym Mhorthcawl, yn ogystal â £520,000 ar gyfer y datblygiad Cosy Corner.

Ymhlith buddsoddiadau eraill mae £1.5m ar gyfer datblygiad Hyb Diwylliannol Neuadd Dref Maesteg a £400,000 ar gyfer Rhaglen Ddatgarboneiddio 2030, a fydd yn chwarae rhan allweddol o ran helpu’r cyngor i fodloni statws carbon sero net erbyn 2030.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “O feddwl bod y cyngor eisoes wedi darparu ar gyfer diffyg o £72m mewn cyllid craidd ers 2010-11, mae dod o hyd i arbedion pellach wrth geisio gosod cyllideb gytbwys, yng nghanol pwysau cynyddol, wedi bod yn her aruthrol.

“Credwn ein bod wedi llwyddo i wneud hyn, a’n bod wedi darparu cyllideb realistig a theg sy’n blaenoriaethu lles pobl ar adeg pan fo pawb yn profi heriau bywyd modern.

“Rydym wedi sicrhau bod y cynnydd yn y dreth gyngor mor isel ag sy’n bosibl, ac wedi dod o hyd i arbedion drwy newid i oleuadau stryd LED, gosod rhannau o’r adeilad yn Llys Ravens, cau canolfannau ailgylchu am ddiwrnod yr wythnos, codi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas am barcio, a chynnydd bach yn y ffi ar gyfer gwasanaethau optio i mewn megis casglu gwastraff swmpus ac ailgylchu gwastraff gardd.

“Doedd hi ddim yn broses hawdd, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan yn helpu i sicrhau y gall cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer 2023-24.” 

Mae cyllideb sydd â’r nod o gefnogi teuluoedd, hyrwyddo lles ac amddiffyn aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned leol drwy’r argyfwng costau byw parhaus wedi’i chymeradwyo ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y gyllideb, sydd wedi’i galw’n ‘gyllideb Lles’ gan uwch aelodau’r Cyngor, yn golygu bod gan yr awdurdod lleol gyllideb refeniw gros o £485m, cyllideb net o £342m a rhaglen fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £69m ar gyfer 2023-24. Er mwyn ariannu pwysau cyllidebol ychwanegol a gwneud yn iawn am ddiffyg cyllidol o £8m, cytunwyd ar gynnydd o 4.9 y cant yn y dreth gyngor - sy’n llai na’r 6 y cant a awgrymwyd yn flaenorol. Mae hyn gyfystyr ag £1.50 yn ychwanegol yr wythnos i eiddo Band D cyfartalog. Bydd cyllid cynyddol o fwy na £12m yn cael ei fuddsoddi i wasanaethau hanfodol a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ar gyfer 2023-24, gan fynd â chyllideb gyffredinol y gyfarwyddiaeth i fyny i £92.79m. Bydd hyn yn cynnwys £26m i wasanaethau ar gyfer pobl hŷn, £24.1m ar gyfer gofal cymdeithasol i blant, £21m ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a £5.7m ar gyfer gwasanaethau sy’n gofalu am les pobl, cynnal eu hannibyniaeth a’u hatal rhag bod angen rhagor o gefnogaeth cyn hired ag sy’n bosibl. Bydd mwy na £5.5m yn cefnogi oedolion ag anableddau corfforol a namau synhwyrol, a defnyddir £5.2m i reoli a darparu gwasanaethau ar gyfer oedolion. Bydd £4.8m ar gael i helpu oedolion ag anghenion iechyd meddwl. Bydd cyfanswm o £692,000 yn cael ei fuddsoddi i ddiweddaru a gwella gwasanaethau teleofal i bobl hŷn - prosiect sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol gartref gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i fonitro lles a’u helpu i gadw’n ddiogel. Mae’r cyngor hefyd yn parhau i fuddsoddi i’r gweithlu gofal cymdeithasol, gydag ymgyrchoedd recriwtio parhaus yn annog staff i fwynhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, tra’n cael cefnogaeth a hyblygrwydd llwyr wrth eu gwaith, cyfleoedd hyfforddiant a datblygu, rhagolygon gyrfa da a mwy. Bydd gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn derbyn mwy na £137m o’r gyllideb gyffredinol, gyda £110m yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion i gefnogi costau rhedeg, cyflogau staff ac athrawon a mwy. Er bod oddeutu £40,000 yn cael ei arbed drwy ddirprwyo rhai cyfrifoldebau trafnidiaeth i ddarparwyr, gofynnir i ysgolion gyflawni arbedion o £2.1m ar gyfer 2023-24. Ar yr un pryd, mae’r cyngor yn bwriadu buddsoddi £7.3m yn ychwanegol i ysgolion i ariannu’r holl bwysau cyflogau a chostau chwyddiant ysgolion. Bydd buddsoddiad cyfalaf gwerth £26.9m yn galluogi’r cyngor i ddarparu gwelliannau sy’n cynnwys bloc addysgu newydd gwerth £1.6m yn Ysgol Gyfun Bryntirion, £950,000 ar gyfer estyniadau yn ysgolion cynradd Coety a Phencoed, a £1.1m ar gyfer darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont a Phorthcawl. Gyda dros £1.9m i gefnogi adfywiad parhaus ceginau ysgolion a chyflwyniad prydau ysgol am ddim, bydd £386,000 yn cael ei fuddsoddi i gae chwarae bob tywydd yn Ysgol Brynteg, yn ogystal â £220,000 i ddarparu dosbarthiadau symudol o safon uchel yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr. Mae’r cyngor eisoes wedi gwario £21.6m yn adeiladu ac yn adnewyddu ysgolion yn rhan o Fand A o’i raglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac mae wedi ymrwymo i £19m pellach yn rhan o Band B. Mae dros £10.5m wedi’i bennu ar gyfer ysgolion Band B yn 2023-24, yn ogystal â £3,300 ar gyfer cynlluniau priffyrdd cysylltiedig. Bydd Ysgol Gynradd Abercerdin yn derbyn £267,000 i sefydlu hyb dysgu newydd, a bydd £71,000 yn cael ei fuddsoddi i waith diogelwch traffig o amgylch ysgolion lleol. Bydd ysgolion hefyd yn derbyn mwy na £3.9m drwy’r grant cynhaliaeth cyfalaf, a bydd £548,000 yn cefnogi gwaith i’w helpu i ddatblygu rhagor o gyfleusterau all gael eu rhannu â’r gymuned leol. Yn rhannau eraill o’r Cyngor, bydd gwasanaethau a ddarperir gan y gyfarwyddiaeth Cymunedau yn derbyn £30.55m yn ogystal â dros £30.3m mewn buddsoddiadau cyfalaf drwy’r flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys £1.7m ar gyfer parhau i ddiweddaru meysydd chwarae i blant a’u gwneud nhw’n fwy hygyrch, £1m ar gyfer adnewyddu priffyrdd, a £2.9m ar gyfer adnewyddu parhaus ym Mhorthcawl, yn ogystal â £520,000 ar gyfer y datblygiad Cosy Corner. Ymhlith buddsoddiadau eraill mae £1.5m ar gyfer datblygiad Hyb Diwylliannol Neuadd Dref Maesteg a £400,000 ar gyfer Rhaglen Ddatgarboneiddio 2030, a fydd yn chwarae rhan allweddol o ran helpu’r cyngor i fodloni statws carbon sero net erbyn 2030. Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “O feddwl bod y cyngor eisoes wedi darparu ar gyfer diffyg o £72m mewn cyllid craidd ers 2010-11, mae dod o hyd i arbedion pellach wrth geisio gosod cyllideb gytbwys, yng nghanol pwysau cynyddol, wedi bod yn her aruthrol. “Credwn ein bod wedi llwyddo i wneud hyn, a’n bod wedi darparu cyllideb realistig a theg sy’n blaenoriaethu lles pobl ar adeg pan fo pawb yn profi heriau bywyd modern. “Rydym wedi sicrhau bod y cynnydd yn y dreth gyngor mor isel ag sy’n bosibl, ac wedi dod o hyd i arbedion drwy newid i oleuadau stryd LED, gosod rhannau o’r adeilad yn Llys Ravens, cau canolfannau ailgylchu am ddiwrnod yr wythnos, codi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas am barcio, a chynnydd bach yn y ffi ar gyfer gwasanaethau optio i mewn megis casglu gwastraff swmpus ac ailgylchu gwastraff gardd. “Doedd hi ddim yn broses hawdd, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan yn helpu i sicrhau y gall cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer 2023-24.”

Chwilio A i Y

Back to top