Cymeradwyo cytundeb RNLI newydd i ddiogelu gwasanaethau achubwyr bywyd ym Mhorthcawl
Dydd Gwener 07 Chwefror 2025
Bydd yr RNLI yn parhau i ddarparu gwasanaeth achubwyr bywyd tymhorol ym Mhorthcawl ar ôl i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymeradwyo cynnydd mewn cyllid i ddiogelu'r lefelau presennol o wasanaeth.
Daeth y cytundeb partneriaeth diweddaraf i ben yn 2024, a gofynnwyd i'r Cabinet ystyried nifer o opsiynau a oedd yn cynnwys gostyngiadau i lefel y gwasanaeth os na chytunwyd ar gynnydd yn y cyllid.
Bydd y cytundeb tair blynedd newydd yn cwmpasu traethau ym Mae Rest, Bae Coney/Tywodlyd a Bae Trecco, gyda gwasanaeth yn Pink Bay yn cael ei ddarparu gan y tîm sydd wedi'i leoli ym Mae Rest.
Drwy gydol y contract blaenorol, mae 949 o bobl wedi cael cymorth gan achubwyr bywyd, yn cynnwys 12 y dywedir bod eu bywydau wedi'u hachub.
Mae’r RNLI, ynghyd â gwasanaethau achubwyr bywyd gwirfoddol eraill, yn chwarae rhan allweddol wrth gynorthwyo’r cyngor i gynnal ei statws Baner Las ar draethau ym Mae Trecco a Bae Rest.
"Rydym yn falch o’n partneriaeth hirsefydlog gyda’r RNLI ac mae’n newyddion gwych ein bod wedi gallu diogelu'r gwasanaeth hollbwysig hwn heb unrhyw ostyngiad yn lefel y gwasanaeth." "Rydym wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd diogel i dwristiaid a thrigolion ac mae’n amlwg o’r cytundeb diweddaraf fod y gwasanaeth hwn yn achub bywydau ac mae hynny’n rhywbeth nad ydym yn fodlon cyfaddawdu arno." "Mae’n werth nodi hefyd, yn ogystal ag achub bywydau dynol, fod y gwasanaeth hwn wedi helpu i achub anifeiliaid sy’n defnyddio’r traethau hefyd."