Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwella’r broses o brynu eiddo yn yr ardal
Dydd Iau 06 Chwefror 2025
O 20 Chwefror, mae prynu eiddo yn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bon wedi dod yn gyflymach ac yn symlach i bawb.
Fel rhan o’n trawsnewid digidol, rydym wedi gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF i drosglwyddo’n gwasanaeth pridiannau tir lleol i’w chofrestr ddigidol genedlaethol. Mae’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio gwybodaeth ar-lein ar unwaith, gan alluogi i benderfyniadau prynu gael eu gwneud yn gynharach yn y broses drawsgludo.
Cyfyngiadau neu waharddiadau ar ddefnyddio eiddo neu dir, megis caniatâd cynllunio neu statws adeilad rhestredig, yw’r rhan fwyaf o bridiannau tir lleol. Bydd chwilio’r gofrestr genedlaethol yn datgelu a yw eiddo’n ddarostyngedig i bridiant ac yn galluogi’r prynwr i wneud penderfyniad gwybodus am y pryniant.
Bydd cwsmeriaid sy’n defnyddio’r gofrestr yn elwa o’r canlynol:
- cofrestr ar-lein fydd ar gael 24/7 ac ar unwaith;
- gwybodaeth safonol, hawdd ei darllen mewn fformat digidol;
- eiddo y gellir eu chwilio yn ôl cyfeiriad sy’n seiliedig ar destun a lleoliad daearyddol;
- mapiau geo-ofodol sy’n rhoi mwy o sicrwydd ynghylch terfynau pob pridiant;
- canlyniadau chwiliadau swyddogol sy’n cynnig chwiliadau ailadroddus diderfyn am chwe mis, a dangosfwrdd hanes chwilio sy’n eich galluogi i weld chwiliadau blaenorol.
Gall defnyddwyr y gofrestr genedlaethol lawrlwytho chwiliad personol am ddim neu brynu chwiliad swyddogol am £15. Bydd hyn yn caniatáu chwiliadau ailadroddus diderfyn am chwe mis. Darperir yr holl wybodaeth mewn fformat safonol hawdd ei ddarllen, gyda mapiau geo-ofodol.
Gall cwsmeriaid busnes ei ddefnyddio hefyd trwy eu cyfrif porthol Cofrestrfa Tir EF neu Business Gateway. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
Pan fydd pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr yn trosglwyddo eu gwasanaeth pridiannau tir lleol i’r gofrestr genedlaethol, bydd yn cynnwys dros 25 miliwn o bridiannau. Bydd defnyddwyr data yn ei chael hi’n haws chwilio, uno ac ystyried y wybodaeth, tra bydd entrepreneuriaid ac arloeswyr yn gallu datblygu atebion cymdeithasol ac economaidd newydd sydd o fudd i economi ehangach y DU.