Cyngor yn ymrwymo i gynnal Parc Rhanbarthol y Cymoedd tan 2024
Dydd Mercher 19 Ebrill 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno y bydd y cyngor yn parhau i gynnal prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd (VRP) tan 2024.
Gyda chyllid Cymdeithasol Ewrop yn dod i ben ym mis Mehefin 2023, mae’r Cabinet hefyd wedi cytuno i dderbyn cyllid gwerth £265,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r prosiect hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/2024.
Mae VRP yn weledigaeth amgylcheddol ar gyfer y cymoedd - wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno drwy bartneriaeth gynyddol o awdurdodau lleol, asiantaethau llywodraethol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau elusennol, a sefydliadau gwirfoddol sy’n cydweithio’n agos â mentrau preifat a chymunedau lleol.
Y gydweledigaeth ar gyfer VRP yw rhwydwaith o fannau gwyrdd cynaliadwy, o ansawdd uchel - sy'n cynnig cyfleoedd economaidd, hamdden dysgu a sgiliau rhagorol, a fydd yn helpu i newid delwedd a chanfyddiad y cymoedd am byth.
Mae’r weledigaeth hon yn cwmpasu gwella ansawdd bywyd, iechyd a llesiant pobl leol, gan ysgogi balchder yn eu hardal wrth greu amgylchedd sy’n annog buddsoddiad mewnol a dod yn gyrchfan deniadol ar gyfer ymwelwyr.
Yn cwmpasu’r hen faes glo de Cymru, ac yn ymestyn o Sir Gaerfyrddin yn y Gorllewin i Bont-y-pŵl yn y Dwyrain, ac yn ffinio â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i'r Gogledd, mae'r VRP yn gartref i bron draean o boblogaeth Cymru.
Mae’r cyngor yn ystyried hwn yn gyfrifoldeb sylweddol. Rydym yn falch ein bod wedi cael rôl gwesteiwr ar gyfer y prosiect VRP. Bydd cyllid Llywodraeth Cymru’n cynnig y sail ar gyfer cynllunio dull tymor hwy'r prosiect VRP. Bydd hyn yn cynnwys cytuno ar ddull a chyflwyniad wrth drosglwyddo'r VRP i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru, yn ogystal â datblygu cynllun busnes hyfyw er mwyn sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer VRP erbyn 31 Mawrth 2029. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r prosiect hwn ac i’r weledigaeth mae’n ei addo.