Ehangu darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg fesul cam yn parhau ar draws y fwrdeistref sirol
Dydd Llun 15 Ionawr 2024
Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno darpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg fesul cam ar draws y fwrdeistref sirol, gydag ardaloedd cod post ychwanegol yng Nghefn Cribwr, Corneli a Mynydd Cynffig yn elwa o’r fenter ym mis Ionawr 2024.
Mae’r ardaloedd cod post ychwanegol hyn wedi’u cynnwys yn ail gam y cynllun, er mwyn sicrhau bod y nifer targed o blant a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn golygu y bydd pob plentyn dwy i dair oed sy’n byw yng Nghefn Cribwr, y Pîl, Corneli a Mynydd Cynffig yn gymwys ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant a ariennir gan Dechrau’n Deg o fis Ionawr 2024.
Mae Emily Huntley, rhiant sy’n gymwys ar gyfer yr ehangiad diweddar Dechrau’n Deg yng Ngogledd Corneli, yn amlygu sut mae’r ddarpariaeth wedi bod o fudd i’w theulu. Dywedodd hi:
“ Mae’n wych cael fy nghynnwys o’r diwedd yn yr ehangiad cod post Dechrau’n Deg – mae wedi helpu’n aruthrol gyda gofal plant, gan fy ngalluogi i weithio’n llawn amser.
“Mae fy mhlentyn bellach yn gallu cael gwneud defnydd o leoliad o ansawdd uchel yng Nghylch Chwarae Gogledd Corneli, a fydd o fudd yn sicr i’w datblygiad y ei blynyddoedd cynnar. Mae'n hyfryd bod yr ehangiad yn ehangu i ganiatáu i fwy o deuluoedd fod mor ffodus â ni. ”
Mae hyn yn newyddion gwych i deuluoedd sy’n byw yn y cymunedau hynny. Mae’r ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg a ariennir yn gymorth gwych i rieni a phlant, gan gynnig gwasanaeth ymwelwyr iechyd dwys, cymorth ar gyfer datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu a mwy. Mae presenoldeb rheolaidd mewn lleoliadau gofal plant o ansawdd uchel wedi dangos bod canlyniadau i blant yn gwella’n sylweddol. Mae ymchwil yn dangos y bydd cynyddu'r buddsoddiad ym mlynyddoedd cynnar plant yn cael gwell effaith ar eu hiechyd a'u canlyniadau addysgiadol yn y tymor byr ac yn gwella eu sgiliau bywyd yn y tymor hwy. Mae tystiolaeth yn dangos sut mae Dechrau’n Deg yn cael effaith sylweddol, gadarnhaol ar blant – pan fyddant yn mynd i’r ysgol, maent yn barod i ddysgu ac yn fwy hyderus wrth gymdeithasu â phlant eraill. Mae’r cynllun wedi arwain at gymorth cynharach i deuluoedd, tra bod cyswllt ag ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill Dechrau’n Deg wedi arwain at rieni yn bod yn fwy gwybodus ac yn fwy hyderus.
Mae cofrestru ar gyfer darpariaeth Dechrau'n Deg yn yr ardaloedd cod post ychwanegol yng Nghefn Cribwr, Corneli a Mynydd Cynffig bellach ar agor.
Gall rhieni anfon e-bost at flyingstartexpansion@bridgend.gov.uk i gofrestru.