Hwb i natur ar gyfer 10 ardal leol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr diolch i grant o £250,000
Dydd Gwener 06 Ionawr 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael grant gwerth £250,000 gan y prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae’r prosiect yn anelu at greu ‘natur ar stepen eich drws’ drwy ganolbwyntio ar leoliadau cyffredin megis lleoliadau ble mae unigolion yn byw, gweithio neu’n ymweld â nhw.
Bydd y gwelliannau yn cynnwys plannu coed, plannu gwrychoedd, creu perllannau, plannu bylbiau blodau gwyllt ac ardaloedd ‘dim torri’r lawnt’.
Gobeithir hefyd y bydd y gwaith yn cael dylanwad positif ar ystod o rywogaethau megis peillwyr, ystlumod, a mamaliaid bach, yn ogystal â gwella’r ardaloedd ar gyfer cymunedau lleol.
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yw partner darparu’r cyngor ar gyfer y fenter, ac maent ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriadau ar y cynlluniau.
Gwahoddir preswylwyr i roi eu hadborth yn y deg lleoliad canlynol sydd wedi’u dewis ar gyfer y prosiect:
13 Ionawr
13:30 - 15:00 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Gogledd Corneli, Prif leoliad: Heol Onnen, CF33 4DR
16:00 - 17:30 – Oakwood, Maesteg Prif leoliad: Oakwood, CF34 9UA
16 Ionawr
8:30 – 10:00 – Parc Chwarae, Tondu Prif leoliad: Parc Chwarae Tondu, CF32 9BL
11:00 – 12:30 – Bryn Road, Brynmenyn Prif leoliad: Parc Brynmenyn, CF32 9LF
13:30 – 15:00 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Sarn Prif leoliad: Llansantffraid Isaf, CF32 9NN
16:00 – 17:30 – Caeau Newbridge Fields, Pen-y-bont ar Ogwr Prif leoliad: Caeau Newbridge, CF31 4BP
17 Ionawr
8:30 – 10:00 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Cefn Glas Prif leoliad: Barnes Park, CF31 4QF
11:00 – 12:30 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Bryntirion Prif leoliad: Broad Oak Way, CF31 4EQ
13:30 – 15:00 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Y Castellnewydd Prif leoliad: Y tu ôl i Ganolfan Gymunedol Westward, CF31 4JR
16:00 – 17:30 – Parciau a Mannau Gwyrdd, Mynydd Cynffig Prif leoliad: Heol yr Ysgol, CF33 6DT
Mae’n braf gweld bod cynifer o gymunedau lleol yn rhan o brosiect mor bwysig fydd yn dod â nifer o fanteision i’r amgylchedd a chymunedau lleol yn gyffredinol. Mae’n wych gweithio gyda phartneriaid megis Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ar y prosiect hwn, a hoffwn annog preswylwyr i rannu eu safbwyntiau am y cynlluniau cyffrous hyn yn yr ymgynghoriadau sydd i ddod.