Y Cabinet yn bwriadu trafod cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2025-26
Dydd Gwener 14 Chwefror 2025
- Rhagor o gyllid ar gyfer helpu ysgolion i ddelio â phwysau ychwanegol.
- Buddsoddi mwy mewn gwasanaethau ar gyfer plant ac oedolion agored i niwed.
- Dim toriadau i Wasanaethau Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr.
- Arian ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd a thrwsio tyllau.
- Cyllid newydd ar gyfer ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.
- Rhagor o arian ar gyfer grantiau cyfleusterau i’r anabl i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi.
- Y cynnydd yn y dreth gyngor yw 4.5 y cant – mae hwn gyda’r cynnydd isaf yng Nghymru (mae’n cyfateb i £1.59 yn ychwaneg bob wythnos ar eiddo Band D).
Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfarfod ddydd Mawrth 18 Chwefror i drafod y cynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2025-26.
Bydd aelodau’r cabinet yn cael clywed sut y cwblhawyd cynigion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar ôl mynd ati’n ofalus i ddadansoddi adborth a ddeilliodd o ymgynghoriad cyhoeddus a chwblhau’r broses graffu.
Ar ôl ystyried pwysau cyllidebol o £23.9m a gostyngiadau angenrheidiol sydd ychydig dros £8.3m, y gyllideb refeniw net ar gyfer darparu mwy nag 800 o wasanaethau i gymunedau lleol yn ystod 2025-26 fydd £383.3m.
Os caiff y gyllideb hon ei chymeradwyo, bydd yn golygu cyllid cychwynnol o £31.6m ar gyfer gwasanaethau Addysg Ganolog; £123.2m ar gyfer Ysgolion; £115.9m ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant; £33.7m ar gyfer Cymunedau; £24.8m ar gyfer gwasanaethau yng nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr (sy’n amrywio o wasanaethau Cyfreithiol ac Adnoddau Dynol i wasanaethau Cyllid a Diogelwch Cymunedol); a £53.9m ar gyfer cyllidebau ledled y cyngor ar gyfer pethau fel cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, cyllidebau yswiriant, rhyddhad ardrethi disgresiynol a mwy.
Hefyd, cynigiwyd cynnydd o 4.5 y cant yn y dreth gyngor – mae’r cynnydd hwn yn cyfateb i £1.59 yn ychwaneg bob wythnos ar eiddo Band D. Os caiff y cynnydd hwn ei gadarnhau gan y Cabinet, bydd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn mynd gerbron yr holl aelodau yng nghyfarfod llawn y Cyngor a gynhelir ddydd Mercher 26 Chwefror, fel y gellir cynnal trafodaeth derfynol a phleidleisio.
O ganlyniad uniongyrchol i adborth a ddeilliodd o ymgynghoriad cyhoeddus, mae’r cynigion terfynol yn cynnwys nifer o newidiadau.
Erbyn hyn, nid yw’r cyngor yn bwriadu cwtogi arian Gwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr. Yn wir, mae wedi cynnig tynnu’r toriad yn ôl a chaniatáu mwy o amser dros y flwyddyn nesaf i ddod o hyd i ffyrdd amgen o wireddu’r arbedion angenrheidiol.
Er y bydd yn rhaid i ysgolion barhau i ddod o hyd i ostyngiad cyffredinol o 1 y cant, mae’r gyllideb arfaethedig hefyd yn cynnwys adnoddau ychwanegol ar gyfer eu helpu i ddelio â phwysau o du cyflogau a phrisiau. O ganlyniad, bydd cyllid ar gyfer ysgolion yn cynyddu £7.9m yn 2025-26.
Hefyd, mae cyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu yng nghyllideb 2025-26 ar gyfer cynorthwyo plant ac oedolion agored i niwed, gan gyd-fynd drachefn â chanlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus.
Gallai gwariant cyfalaf ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod gynnwys £3m ar gyfer adnewyddu hen gerbydau casglu ailgylchu a sbwriel, dyraniad blynyddol o £2.4m ar gyfer grantiau cyfleusterau i’r anabl, £2m ar gyfer parhau i drawsnewid a gwella mannau chwarae i blant, £590,000 ar gyfer gwaith cyfalaf ar briffyrdd (gwaith strwythurol a gwaith ar gerbytffyrdd), £400,000 ar gyfer adnewyddu colofnau goleuadau stryd, £100,000 ar gyfer helpu i sicrhau y bydd adeiladau gwag yn cael eu defnyddio drachefn, a £50,000 ar gyfer cefnogi prosiectau mewn cymunedau lleol.
Mae’r gyllideb yn cynnwys cynlluniau ar gyfer buddsoddi bron i £14m mewn sefydlu ysgolion cynradd newydd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn rhan orllewinol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Er mwyn helpu i leihau allyriadau ac ategu ymrwymiadau amgylcheddol y cyngor, cafwyd mwy na £453,700 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella seilwaith i gynorthwyo’r gwaith o osod hyd at 36 o gyfleusterau newydd ar gyfer gwefru cerbydau trydan ar safleoedd y cyngor.
Mewn mannau eraill, bydd modd parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau tai a chynlluniau digartrefedd, yn ogystal â pharhau i ddarparu gwasanaeth teleofal digidol integredig a dibynadwy i oedolion agored i niwed, gan gynnig cymorth cyflymach ac ar raddfa fwy.
Bydd y Cabinet yn trafod y gyllideb ddydd Mawrth 18 Chwefror cyn cynnal cyfarfod llawn y Cyngor ddydd Mercher 26 Chwefror. Gallwch weld adroddiadau llawn ac agendâu’r ddau gyfarfod ar y wefan.