Mae cofrestriadau ar gyfer Casgliadau Gwastraff yr Ardd 2025/26 nawr ar agor – Cofrestrwch ar-lein
Y Cyngor i ymgynghori ar ddiweddaru’r canllaw cynllunio ar gyfer tai fforddiadwy
Dydd Mercher 05 Chwefror 2025
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynlluniau ar gyfer diweddaru’r canllaw a ddefnyddia datblygwyr wrth ddarparu tai fforddiadwy yn yr ardal.
Wedi’i ddiweddaru yn 2015, mae’r Canllaw Cynllunio Tai Fforddiadwy Atodol drafft yn ategu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, ac yn sicrhau bod polisïau sy’n ymdrin â thai fforddiadwy yn parhau’n effeithiol, yn gyfredol ac yn cydymffurfio.
Yn ogystal â phenderfynu faint o dai fforddiadwy sydd angen bod yn rhan o gynllun datblygu tai, mae’r canllaw yn sicrhau bod hyn yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol ar gynaliadwyedd a chreu lleoedd.
Mae hefyd yn ymgorffori canllaw penodol ar y lleoliad, math, daliadaeth, maint a safon y tai fforddiadwy, yn penderfynu sut y gall cytundebau Adran 106 gael eu defnyddio i sicrhau darpariaeth o dai fforddiadwy ar gyfer oes y datblygiad, yn cynnwys diffiniadau o bwy sy’n gymwys ar gyfer tai fforddiadwy, a rhagor.
"Mae ymchwil diweddar wedi cadarnhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr angen dros 2,800 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy erbyn 2039 os yw am ymdopi gyda’r boblogaeth gynyddol a galwad lleol cynyddol dros y degawd nesaf." "Mae ymchwil diweddar wedi cadarnhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr angen dros 2,800 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy erbyn 2039 os yw am ymdopi gyda’r boblogaeth gynyddol a galwad lleol cynyddol dros y degawd nesaf." "Byddwn yn cadarnhau manylion yr ymgynghoriad yn fuan, felly cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth am sut y gallwch weld y canllaw drafft a rhoi eich barn."