Y Prif Weinidog yn ymweld ag Ysgol Gynradd Afon y Felin
Dydd Gwener 24 Ionawr 2025
Ar 16 Ionawr, roedd cyffro mawr yn Ysgol Gynradd Afon y Felin, yng Ngogledd Corneli, wrth ddisgwyl ymweliad y Prif Weinidog, Eluned Morgan. Yn ystod ymweliad byr, dysgodd y Prif Weinidog am yr ysgol, sy’n hyrwyddo hunan-gred a dyheadau’r plant, er gwaetha’r heriau economaidd-gymdeithasol.
Gyda chatalog o lwyddiannau a gweithgareddau allgyrsiol, yn amrywio o dderbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith ddwy waith am ymdrechion yr ysgol yn y Gymraeg, i gyrraedd Rownd Derfynol Her STEM Formula One, mae’n amlwg pam fod y plant yn cerdded â’u pennau’n uchel o amgylch yr ysgol, gan siarad yn hyderus a chwrtais gyda’r Prif Weinidog.
Wrth symud o ddosbarth i ddosbarth, eistedd ar y carped gyda’r plant ieuengaf gan ymuno â nhw i ganu eu caneuon Cymraeg, gofyn cwestiynau perthnasol i’r disgyblion hŷn, teimlai pawb yn gyfforddus oherwydd cynhesrwydd y Prif Weinidog.
Dywedodd un disgybl: “Roedd hi’n ddynes lyfli ac mi eisteddodd hefo fi a gofyn i mi am fy nysgu. Dywedais wrthi mod i’n caru’r ysgol.” Ychwanegodd dysgwr arall: “Roeddem wrth ein boddau yn canu’r caneuon Cymraeg gyda’r Prif Weinidog, roedd hi’n gwybod y geiriau i gyd hefyd!”

Neilltuodd Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru amser i sgwrsio â’r rhieni hefyd, er mwyn canfod eu safbwyntiau ar amrywiol bynciau. Meddai: “Roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag Ysgol Gynradd Afon Y Felin - derbyniais groeso cynnes gan y staff a’r disgyblion. Mae’n ysgol hyfryd, ac rwy’n siŵr fod pawb, staff, disgyblion a’u teuluoedd, mor falch!”
Wrth drafod eu gwestai adnabyddus, dywedodd Denise Jones, Pennaeth yr Ysgol: “Roedd y Prif Weinidog yn awyddus i gwrdd â phawb yn yr ysgol a gwrando ar farn pob un ohonynt. Hyfryd iawn oedd gwylio plant y Criw Cymraeg yn siarad â hi am y Gymraeg yn Afon y Felin. Gwrandawodd yn eiddgar, gan eu canmol am eu rolau a’u brwdfrydedd tuag at yr iaith.”
Ychwanegodd y Pennaeth Gweithredol Dros Dro, Katrina Pryse: “Roedd Ysgol Gynradd Afon y Felin yn falch iawn o groesawu Prif Weinidog Cymru. Roedd yn awyddus i ddeall yr heriau ariannol sy’n wynebu ysgolion, a sut ydym yn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus.
“Roedd ein disgyblion yn falch o allu dangos y cyfleoedd mae’r ysgol yn ei gynnig iddynt, gan eu helpu i ddeall a bod yn falch o’u treftadaeth Gymreig, sy’n allweddol ar gyfer dysgu ac addysgu.”
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Mae’n anrhydedd enfawr bod y Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi dewis ymweld ag un o’n hysgolion ar ei hymweliad byr â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”
“Mae Ysgol Gynradd Afon y Felin yn enghraifft wych o’r gwaith arbennig sy’n digwydd yn gyson mewn ysgolion ledled y fwrdeistref sirol.”
“Bu hefyd yn gyfle ardderchog i arddangos talentau penodol staff a disgyblion Ysgol Gynradd Afon y Felin - nid yw ymddangosiad syml yr ysgol a adeiladwyd yn y saithdegau yn adlewyrchu’r digwyddiadau gwych a deinamig sy’n digwydd oddi mewn i’r adeilad.”
“Ardderchog pawb, rydych wedi ein gwneud yn falch iawn gyda’ch safonau rhagorol!”