Ysgol gynradd newydd a rhandiroedd yn symud gam ymhellach
Dydd Mercher 08 Mai 2024
Mae’r gwaith o ddarparu safle ysgol gynradd newydd sbon a chyfleusterau rhandir cymunedol modern i drigolion Mynydd Cynffig wedi gwneud cynnydd yn ddiweddar.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydweithio’n agos ag athrawon, staff a disgyblion Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn ogystal ag aelodau o Gymdeithas Rhandiroedd Pwllygath i sicrhau y bydd y gymuned leol yn elwa o fuddsoddiadau newydd gwerth miliynau o bunnoedd.
Nod y prosiect yw darparu safle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig a fydd yn disodli adeiladau a seilwaith sy’n heneiddio gyda chyfleusterau addysgol modern.
Bydd y safle modern newydd, a fydd yn gallu cefnogi hyd at 420 o blant lleol a chynnig meithrinfa gyda 75 lle yn ychwanegol, yn golygu na fydd yn rhaid i blant gael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth dros dro mwyach, a bydd hyn hefyd yn datrys statws safle hollt blaenorol yr ysgol yn llwyr.
Oherwydd bod angen i’r ysgol newydd gael ei hadeiladu’n rhannol ar dir o eiddo’r cyngor a ddefnyddiwyd ar gyfer rhandiroedd lleol, mae’r cyngor hefyd yn bwriadu creu safle rhandir pwrpasol newydd sbon a fydd yn cynnwys gwell cyfleusterau a mynediad.
Bydd lleoliad newydd y rhandiroedd, a leolir y tu ôl i’r ysgol gynradd newydd, yn cynnwys pridd o ansawdd da a fydd yn sicr o fodloni safonau penodol, ffens ddiogelwch, gwell mynediad i’r plotiau, cyfleusterau parcio a cholomendy newydd.
Yn ogystal, bydd pob un o’r 26 plot yn cynnwys llecyn llawr caled gyda sied newydd, casgen ddŵr a ffens bren newydd gyda mynediad drwy giât. Os gwneir cais amdanynt, mae modd darparu cytiau ieir hefyd.
Mae’r gwaith o ddarparu safle ysgol gynradd newydd sbon a chyfleusterau rhandir cymunedol modern i drigolion Mynydd Cynffig wedi gwneud cynnydd yn ddiweddar. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydweithio’n agos ag athrawon, staff a disgyblion Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn ogystal ag aelodau o Gymdeithas Rhandiroedd Pwllygath i sicrhau y bydd y gymuned leol yn elwa o fuddsoddiadau newydd gwerth miliynau o bunnoedd. Nod y prosiect yw darparu safle newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig a fydd yn disodli adeiladau a seilwaith sy’n heneiddio gyda chyfleusterau addysgol modern. Bydd y safle modern newydd, a fydd yn gallu cefnogi hyd at 420 o blant lleol a chynnig meithrinfa gyda 75 lle yn ychwanegol, yn golygu na fydd yn rhaid i blant gael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth dros dro mwyach, a bydd hyn hefyd yn datrys statws safle hollt blaenorol yr ysgol yn llwyr. Oherwydd bod angen i’r ysgol newydd gael ei hadeiladu’n rhannol ar dir o eiddo’r cyngor a ddefnyddiwyd ar gyfer rhandiroedd lleol, mae’r cyngor hefyd yn bwriadu creu safle rhandir pwrpasol newydd sbon a fydd yn cynnwys gwell cyfleusterau a mynediad. Bydd lleoliad newydd y rhandiroedd, a leolir y tu ôl i’r ysgol gynradd newydd, yn cynnwys pridd o ansawdd da a fydd yn sicr o fodloni safonau penodol, ffens ddiogelwch, gwell mynediad i’r plotiau, cyfleusterau parcio a cholomendy newydd. Yn ogystal, bydd pob un o’r 26 plot yn cynnwys llecyn llawr caled gyda sied newydd, casgen ddŵr a ffens bren newydd gyda mynediad drwy giât. Os gwneir cais amdanynt, mae modd darparu cytiau ieir hefyd.

Darluniadau yn dangos lleoliad a chynllun newydd y safle rhandiroedd, a sut fydd y plotiau yn parhau i fod wedi’u lleoli’n agos at ysgol gynradd newydd Mynydd Cynffig.