Ailgylchu mewn fflatiau ac ystadau tai dwysedd uchel

Nid oes gan rai fflatiau ac ystadau tai dwysedd uchel ddigon o le i gasglu ailgylchu o ymyl y ffordd. 

Gall preswylwyr yr eiddo hyn ddefnyddio biniau a rennir i ailgylchu eu gwastraff yn agos i’w cartrefi.

Bin ailgylchu papur

Ie plîs

  • Papur
  • Cardfwrdd
  • Papur newydd
  • Cylchgronau
  • Cyfeirlyfrau ffôn
  • Catalogau
  • Post sothach
  • Amlenni

Dim diolch

  • Hancesi papur
  • Tyweli papur
  • Rholyn cegin

Bin ailgylchu gwydr

Golchwch unrhyw wydr cyn ei roi allan i’w gasglu.

Ie plîs

  • Poteli gwydr
  • Jariau

Dim diolch

  • Gwydrau yfed
  • Fasys
  • Powlenni
  • Gwydr ffenestr
  • Bylbiau golau
  • Pyrex

Bin ailgylchu gwastraff bwyd

Ie plîs

  • Bwyd wedi a heb ei goginio
  • Cig
  • Pysgod
  • Esgyrn

Dim diolch

  • Gwastraff gard
  • Blodau wedi’u torri

Bin ailgylchu plastig a chaniau

Ie plîs

  • Poteli plastig, gan gynnwys poteli llaeth, diod a siampŵ
  • Cynwysyddion bwyd, gan gynnwys potiau iogwrt, tybiau marjarîn a chwpanau plastig
  • Hambyrddau bwyd nad ydynt yn ddu
  • Bocsys
  • Hambyrddau a chynwysyddion ffoil
  • Tuniau bwyd
  • Caniau diod

Dim diolch

  • Bagiau plastig, gan gynnwys bagiau siopa, bagiau bara a bagiau bwyd rhewi
  • Ffilm plastig
  • Cling-ffilm
  • Pecynnau, gan gynnwys losin, bisgedi a chreision
  • Ffoil â chefn papur, er enghraifft, pocedi ffoil
  • Deunydd lapio swigod
  • Cesys CD a DVD
  • Polystyren
  • Teganau a phlastig caled arall
  • Potiau planhigion
  • Paent chwistrellu
  • Blychau nwy
  • Aerosolau

Chwilio A i Y

Back to top