Trwyddedau Tipio
Os yw eich cerbyd yn fan neu dryc picyp, rhaid ei gofrestru gyda thrwydded tipio cyn ymweld â chanolfannau ailgylchu cymunedol Pîl neu Faesteg. Mae hyn yn ein helpu ni i reoli’r gwaredu ar wastraff heb ddod o dai.
Hefyd bydd rhaid i chi gael trwydded os oes gan eich cerbyd drelar sydd rhwng 5 troedfedd a 6 troedfedd 6 modfedd (1.5m i 2m). Ni chaiff cerbydau neu drelars olwynion hir mawr sy’n fwy na 6 throedfedd (2m) ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu cymunedol.
Nid yw ceir, jîps na cherbydau MPV, na threlars llai na 5 troedfedd, angen trwyddedau.
Sylwer nad yw canolfan Brynmenyn yn caniatáu faniau na threlars.
Cael trwydded dipio
Gallwch gael trwyddedau tipio am ddim trwy ffonio 01656 643643 o leiaf 48 awr cyn eich bod eisiau dod i un o’r canolfannau.
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- rhestr o eitemau rydych am eu hailgylchu
- y dyddiad a’r ganolfan rydych am fynd iddi
- rhif cofrestru, gwneuthuriad a model eich cerbyd
Mewn rhai achosion gallai fod angen i ni edrych ar y gwastraff rydych am ei waredu cyn rhoi trwydded. Gellir gwneud hyn yn eich cartref.