Casgliadau ailgylchu

Gwybodaeth am fagiau a bocsys ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cofiwch eu rhoi ar garreg y drws/wrth ymyl y ffordd cyn 7.00am ar ddiwrnod eich casgliad ailgylchu.

Os ydych angen rhagor o fagiau neu focsys ailgylchu, gallwch eu harchebu ar-lein.

Nid oes gan rai fflatiau ac ystadau tai dwysedd uchel ddigon o le i gasglu ailgylchu o ymyl y ffordd. Gall preswylwyr yr eiddo hyn ddefnyddio biniau a rennir i ailgylchu eu gwastraff yn agos i’w cartrefi - Ailgylchu mewn fflatiau ac ystadau tai dwysedd uchel.

Diweddariadau casglu

Os credwch fod eich casgliad wedi’i fethu, gallwch weld y diweddariadau a’r cyngor ar-lein.

Cynwysyddion ailgylchu

Llun o sach ailgylchu oren gyda’n logo ni, logo Kier a logo “Recycle for Bridgend”.

Sach oren - Cardfwrdd

Cofiwch gynnwys y canlynol:

  • pecynnau cardfwrdd
  • Papur brown
  • bocsys wyau
  • cardiau pen blwydd
  • cartonau diod cwyrog sydd hefyd yn cael eu galw’n becynnau tetra

Peidiwch â chynnwys:

  • Papur wal
  • Papur lapio
  • Hancesi papur
  • Tyweli papur

Os oes gennych chi unrhyw ddarnau mawr ychwanegol o gardfwrdd, rhowch nhw wrth ymyl eich sach oren ar gyfer eu casglu.

Llun o sach ailgylchu las gyda’n logo ni, logo Kier a logo “Recycle for Bridgend”.

Sach glas - Plastig, caniau, erosolau a ffoil

Cofiwch gynnwys y canlynol:

  • poteli plastig fel poteli llaeth, diod a siampŵ
  • cynwysyddion bwyd fel potiau iogwrt a thybiau mererin
  • cwpanau plastig
  • hambyrddau bwyd heb fod yn ddu
  • pynets
  • caniau aerosol gwag
  • hambyrddau a chynwysyddion ffoil
  • tuniau bwyd
  • caniau diod

Peidiwch â chynnwys:

  • plastig du
  • bagiau plastig gan gynnwys bagiau cario, bagiau bara a bagiau bwyd rhew
  • ffilm plastig, cling film a’r deunydd lapio sydd am felysion a bisgedi
  • plastig LDPE 4
  • pecynnau creision/ffoil cefn papur fel codau ffoil
  • deunydd lapio swigod
  • cloriau CD/DVD a fideo
  • polystyren
  • teganau a phlastig caled arall
  • potiau planhigion
  • paent chwistrell
  • canisters nwy
Llun o sach ailgylchu wen gyda’n logo ni, logo Kier a logo “Recycle for Bridgend”.

Sach gwyn - Papur

Cofiwch gynnwys y canlynol:

  • papur
  • papur newydd
  • cylchgronau
  • cyfeirlyfrau ffôn
  • catalogau, ond cofiwch dynnu unrhyw orchuddion cardfwrdd
  • papur wedi’i rwygo – ychydig ar y tro
  • post jync gan gynnwys amlenni

Peidiwch â chynnwys:

  • papur wal
  • papur lapio
  • hancesi papur
  • tyweli papur
  • papur cegin
  • cerdyn
  • Papur brown
Llun o un cadi brown mawr ac un bach ar gyfer casglu gwastraff bwyd.

Cadi brown - Gwastraff bwyd

Mae hwn yn cynnwys y canlynol:

  • bwyd wedi a heb ei goginio
  • cig
  • pysgod
  • esgyrn
  • crwyn
  • bagiau te
  • bwyd anifeiliaid anwes

Peidiwch â chynnwys:

  • gwastraff gardd
  • blodau wedi’u torri
Llun o gadi du sy’n dweud ‘poteli a jariau du’, ac sydd â’n logo ni, logo Kier a logo “Recycle for Bridgend” arno.

Cadi du - Gwydr

Cofiwch gynnwys y canlynol:

  • poteli gwydr
  • jariau gwydr

Peidiwch â chynnwys:

  • cerameg a tsieina
  • gwydrau yfed
  • paenau gwydr
  • pyrex
  • bylbiau golau

Gellir ailgylchu gwydr drosodd a throsodd heb golli unrhyw ansawdd.

Cofiwch!

Gallwch hefyd ailgylchu’r canlynol ar garreg y drws:

  • Tecstilau ac esgidiau paredig - Rhowch nhw mewn bag plastig
  • Batris, ffonau symudol a sbectolau haul/sbectolau - Rhowch nhw mewn bag plastig neu fag brechdanau
  • Eitemau trydanol bychain, fel tostwyr, tegelli, heyrn smwddio a sychwyr gwallt. Dim sgriniau, e.e. gliniaduron neu Deledu - Rhowch nhw mewn bag plastig
Additional recycling graphic

Chwilio A i Y

Back to top