Gallech fod yn gymwys ar gyfer Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) os oes gan eich cartref unrhyw un o’r eitemau canlynol i’w gwaredu.
- Cewynnau
- Bagiau colostomi
- Padiau anymataliaeth oedolion
Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn, gallwch hefyd roi'r canlynol yn eich bagiau:
- cynfasau gwely plastig
- menig plastig
- ffedogau tafladwy
- hancesi papur
- weipiau
Peidiwch â rhoi cynnyrch hylendid merched yn eich bagiau, dylid rhoi’r rhain yn eich bagiau sbwriel arferol.
Noder: Gall casgliadau o fflatiau ac ystadau gyda nifer fawr o dai amrywio.
Cofrestru ar gyfer casgliadau
I gofrestru ar gyfer casgliadau Nwyddau Hylendid Amsugnol, cwblhewch ffurflen ar-lein: