Casglu sbwriel

Pob pythefnos rydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff ar gyfer deunyddiau na ellir eu hail-gylchu ar garreg y drws.

Dim mwy na dau sach pob pythefnos.

Rhowch eich gwastraff ar ochr y palmant erbyn 7am ar ddiwrnod casgliadau. Byddwch yn ofalus wrth roi’r sachau allan i’w casglu, gan sicrhau nad ydych yn creu rhwystr ar y palmant.

Peidiwch â rhoi’r sachau allan cyn 7pm y noson cyn eich casgliad, oherwydd gall y sbwriel greu problemau.

Gallai trigolion sy’n rhoi eu bagiau mas y tu allan i’r oriau hyn gael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 neu gael eu herlyn hyd yn oed dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Peidiwch â rhoi’r canlynol yn eich sachau gwastraff:

  • gwastraff gardd
  • eitemau DIY fel paent, cerrig, rwbel neu wastraff adeiladwyr
  • gwastraff clinigol fel gwastraff meddygol neu nodwyddau
  • anifeiliaid marw
  • olew coginio neu injan
  • eitemau trydanol
  • gwastraff masnachol
  • gwastraff peryglus fel toddyddion a chemegau
  • batris
  • tiwbiau fflworoleuol neu fylbiau golau yn cynnwys mercwri
  • gwenwyn neu drapiau
  • asbestos

Gwneud cais am sachau ychwanegol

Gallwch wneud cais i roi mwy o sachau allan pob pythefnos.

Er enghraifft, gallai cartref ar gyfer wyth o bobl gyda thân glo sy’n cynhyrchu llwch fel y brif ffynhonnell o wres gael tri bag sbwriel ychwanegol.

Fodd bynnag, mae’r cyfyngiad i ddau fag yn bosib ar gyfer teulu o bump ar gyfartaledd.

Amgylchiadau’r cartref Y nifer o sachau ychwanegol y gellir gwneud cais amdanynt
Pump neu lai o breswylwyr 0
Chwech neu saith o breswylwyr 1
Wyth neu fwy o breswylwyr 2
Cartrefi gyda thân glo sy’n cynhyrchu llwch fel y brif ffynhonnell o wres 1

Pethau miniog a gwastraff clinigol

Nid ydym yn casglu gwastraff clinigol na theclynnau miniog sy’n cael eu cynhyrchu mewn lleoliad domestig. 

Cysylltwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf os oes arnoch angen cael gwared ar yr eitemau hyn.

Chwilio A i Y

Back to top