Dogfennau sydd eu hangen i hawlio budd-daliadau

Mae’r rheolau yma’n berthnasol ar gyfer hawlio unrhyw fudd-dal gan y cyngor.

Mewn rhai achosion, mae posib sganio dogfennau drwy Fy Nghyfrif. Yn y rhan fwyaf o achosion, ac os gofynnir i chi am y gwreiddiol, bydd angen i chi ddod â’ch dogfennau gyda chi i’r Swyddfeydd Dinesig er mwyn eu dilysu a’u llungopïo. Fe allech chi wneud y canlynol:

  • eu postio i’r Adran Budd-daliadau yn y Swyddfeydd Dinesig
  • dod â nhw gyda chi i’r Adran Budd-daliadau yn y Swyddfeydd Dinesig
  • mynd â nhw i lyfrgell leol, lle bydd negesydd yn eu codi

Rhaid i chi ddarparu prawf dogfennol ar eich cyfer chi’ch hun, ac, os oes gennych un, eich partner, o’r canlynol:

  • rhifau yswiriant gwladol
  • pwy ydych chi
  • rhent
  • incwm a chyfalaf, gan gynnwys rhai aelodau’r cartref

Os na fydd gennych brawf, fydd dim modd prosesu eich hawliad.

Y dogfennau sydd eu hangen i brofi pwy ydych chi

Mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol i brofi eich hunaniaeth.

Mae’n rhaid i o leiaf dwy eitem o dystiolaeth gael eu darparu:

  • mae’n rhaid i o leiaf un fod o’r brif restr dystiolaeth
  • dylai un gadarnhau eich rhif yswiriant gwladol.

  • pasbortau, y mae’n rhaid iddynt fod yn gyfredol ac yn ddilys
  • Llythyrau Cydnabod Safonol y Swyddfa Gartref (SAL 1 neu 2)
  • trwyddedau gyrru
  • tystysgrifau geni, priodas, neu farwolaeth
  • tystysgrifau mabwysiadu
  • papurau ysgariad neu ddirymiad
  • cardiau adnabod cenedlaethol
  • cardiau NINO gyda rhif yswiriant gwladol
  • ffurflenni cyfraniadau yswiriant gwladol
  • cardiau meddygol sy’n cynnwys rhif y GIG
  • tystysgrifau cyflogaeth y lluoedd arfog
  • dogfennau newid enw
  • llythyrau hysbysu budd-dal y wladwriaeth
  • tystysgrifau is-gontractwyr
  • ffurflenni P45
  • ffurflenni E111

  • slipiau cyflog
  • cytundebau tenantiaeth, llyfrau rhent neu gardiau rhent
  • biliau cyfleustodau, fel rhai ar gyfer nwy, trydan a dŵr
  • biliau ffôn sefydlog
  • cardiau rheilffordd, cardiau teithio a thocynnau bws
  • tocynnau tymor
  • cardiau debyd neu gredyd banc neu gymdeithas adeiladu
  • cardiau tâl siopau
  • cyfriflenni/paslyfrau banc neu gymdeithas adeiladu
  • tystysgrifau cyfranddaliadau
  • polisïau yswiriant bywyd
  • cardiau aelodaeth undeb llafur

Tystiolaeth o denantiaeth

Os ydych chi’n talu rhent mae rhaid i ni gael prawf o’ch tenantiaeth. Mae un neu fwy o’r canlynol yn dderbyniol fel prawf tenantiaeth:

  • cytundeb eich tenantiaeth
  • llythyr gan eich landlord
  • eich llyfr rhent
  • llythyr gan asiant eich landlord
  • prawf o ffurflen rhent

Rhaid i’r holl dystiolaeth sy’n cael ei darparu gynnwys yr holl wybodaeth ganlynol:

  • enw a chyfeiriad eich landlord
  • enw a chyfeiriad yr asiant rheoli, os oes gennych un
  • y dyddiad y dechreuodd eich cytundeb
  • swm y rhent sy’n daladwy
  • pa wasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn eich rhent, os o gwbl
  • y cyfnod talu, boed yn fisol, yn wythnosol neu’n fis calendr

Tystiolaeth o enillion

Os oes gennych chi neu’ch partner enillion, rhaid i ni weld naill ai/neu:

  • y slipiau cyflog wythnosol am y pum wythnos diwethaf
  • y tri slip cyflog bob pythefnos diwethaf
  • y slipiau cyflog misol am y ddau fis diwethaf

Rhaid i’r dystiolaeth gynnwys:

  • enwau a chyfeiriadau’r cyflogwyr
  • nifer yr oriau a weithiwyd a dros ba gyfnod
  • incwm gros ar gyfer y cyfnod talu a’r flwyddyn hyd yn hyn
  • didyniadau treth incwm yn y cyfnod talu a’r flwyddyn hyd yn hyn
  • cyfraniadau yswiriant gwladol
  • cyfraniadau pensiwn galwedigaethol neu bersonol
  • y dull o dalu, er enghraifft drwy arian parod, trosglwyddo i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu drwy siec

Os nad oes gennych chi slipiau cyflog, gallwch ofyn i’ch cyflogwr lenwi tystysgrif enillion.

Os ydych chi newydd ddechrau gweithio, bydd llythyr gan eich cyflogwr yn nodi eich tâl gros a net yn ddigon, nes y byddwch wedi cael y slipiau cyflog angenrheidiol. Pan gewch chi nhw, mae’n rhaid i chi eu hanfon atom.

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o bob un o’ch budd-daliadau. Dylai hyn gynnwys y llythyr yn nodi eich hawliad, ac os yw eich budd-dal yn cael ei dalu i gyfrif banc, gallwn ddefnyddio’r gyfriflen banc hefyd.

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch holl gyfalaf. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu sydd gennych, yn ogystal â buddsoddiadau eraill fel cyfranddaliadau.

Rhaid darparu cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu gwreiddiol sy’n dangos cofnodion debyd a chredyd am gyfnod o ddau fis cyn cyflwyno’r cais. Nid yw slip yn dangos y balans sy’n weddill yn dderbyniol.

Hefyd, rhaid darparu dogfennau gwreiddiol yn dangos prawf mai chi sy’n berchen ar fuddsoddiadau eraill megis tystysgrifau cyfranddaliadau, cyfriflenni difidend, bondiau, stociau a chyfrannau cwmni buddsoddi.

Os ydych chi’n berchen ar eiddo ar wahân i’r un lle’r ydych chi’n byw, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am werth yr eiddo. Dylech hefyd ddarparu manylion morgeisi neu fenthyciadau sydd wedi’u gwarantu arnynt.

Rhaid darparu tystiolaeth o’ch incwm i gyd.

Y bobl sy’n byw gyda chi

Bydd didyniadau’n cael eu gwneud o’ch hawliad os oes gennych chi oedolion eraill, gan gynnwys aelodau’r teulu yn byw gyda chi oni bai eich bod chi:

  • yn cael elfen gofal y lwfans byw i’r anabl
  • yn cael lwfans gweini
  • wedi’ch cofrestru fel rhywun dall

Os yw eu hincwm yn uchel ac y byddech chi’n disgwyl iddynt wynebu’r didyniad mwyaf posibl, nid oes angen i chi ddarparu manylion eu hincwm. Dim ond nodi hynny ar y ffurflen.

Fodd bynnag, os ydych chi eisiau cyfradd didyniad is, bydd angen i chi nodi manylion incwm gros yr holl bobl yn eich cartref nad ydynt yn ddibynnol arnoch chi. Rhaid i ni gael y dogfennau gwreiddiol sy’n dangos eu hincwm. Mae hyn yn cynnwys y cyflogau maent yn eu hennill yn ogystal ag incwm arall fel y credyd treth gwaith, a’r llog ar unrhyw gynilion. Mae’r adrannau blaenorol yn esbonio pa dystiolaeth/gwybodaeth y mae’n rhaid ei darparu.

Nodwch mai dim ond y dogfennau gwreiddiol y gellir eu darparu fel prawf. Nid yw llungopïau’n dderbyniol. Cewch lungopïo eich dogfennau am ddim mewn unrhyw lyfrgell neu yn y Swyddfeydd Dinesig.

Pobl nad ydynt yn ddibynnol arnoch chi

Ystyr pobl nad ydynt yn ddibynnol arnoch chi yw unrhyw un 18 oed neu’n hŷn sy’n byw yn eich cartref neu’n defnyddio eich cartref fel ei brif breswylfa neu at ddibenion heb fod yn fasnachol. Nid oes yn rhaid iddo fod yn aelod o’r teulu.

Os oes gennych chi rywun nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n byw gyda chi, efallai bydd eich budd-dal yn cael ei leihau.

Bydd angen i ni weld prawf o incwm y sawl nad yw’n ddibynnol arnoch chi, megis:

  • slipiau cyflog
  • tystysgrif enillion cyflogwr wedi’i chwblhau
  • llythyr dyfarnu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • llythyr dyfarnu myfyriwr
  • cyfrifon, os yw’r sawl nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n hunangyflogedig

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd rhywun yn symud i fyw atoch chi neu’n gadael eich cartref, gan y gallai hyn effeithio ar eich budd-daliadau.

Os oes rhywun nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n byw gyda chi ac y mae ei incwm yn cynyddu neu’n lleihau mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni.

Gallai hynny gynyddu neu leihau’r didyniad y mae’n rhaid i ni ei wneud. Hyd yn oed os yw’r sawl nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n cael unrhyw fath o fudd-daliadau’r wladwriaeth, bydd angen i chi roi gwybod i ni.

Mae’r llywodraeth yn nodi didyniad wythnosol ar gyfer pobl nad ydynt yn ddibynyddion, yn dibynnu ar eu hincwm gros. Po fwyaf i’w hincwm, y mwyaf yw’r didyniad o’ch budd-dal.

Ni chaiff didyniad ei wneud os:

  • ydych chi neu’ch partner yn cael lwfans gweini
  • ydych chi neu’ch partner yn cael elfen gofal y lwfans byw i’r anabl
  • ydych chi neu’ch partner wedi’ch cofrestru fel rhywun dall
  • yw’r unigolyn nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n fyfyriwr llawn amser neu’n cael lwfans hyfforddiant seiliedig ar waith
  • yw’r unigolyn nad yw’n ddibynnol arnoch chi yn yr ysbyty am 52 wythnos neu fwy
  • nad yw’r unigolyn nad yw’n ddibynnol arnoch chi yn y carchar neu’n byw yn rhywle arall fel arfer
  • yw’r unigolyn nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n cael unrhyw fath o gredyd pensiwn

Chwilio A i Y

Back to top