Mae'r cynllun Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD) yn helpu pobl y gall fod angen rhagor o help arnynt gyda'u costau tai. Dim ond os ydynt yn hawlio budd-dal tai, lwfans tai lleol neu elfen tai y credyd cynhwysol y gallant gael hyn.
Rydym yn cael cyllid cyfyngedig gan y Llywodraeth ar gyfer y cynllun TTD. Mae'r swm y gallwn ei wario ar y cynllun bob blwyddyn yn gyfyngedig, ac ni fyddwn yn dyfarnu cyllid i bawb sy'n hawlio TTD.
Wrth wneud penderfyniad, rydym yn adolygu:
- cyfanswm eich incwm
- a oes gennych unrhyw gynilion
- a all unrhyw un arall yn y tŷ helpu'n ariannol
- a oes gennych unrhyw fenthyciadau neu ddyledion i'w talu
- a allech aildrefnu eich cyllid i helpu eich sefyllfa
- a oes gennych chi neu'ch teulu unrhyw amgylchiadau arbennig fel salwch neu anabledd
- a ydych chi wedi ceisio cywiro'r sefyllfa eich hun
Gofynnir i chi am lawer o wybodaeth ac efallai y bydd angen tystiolaeth fel cyfriflenni banc neu brawf o fenthyciadau. Efallai y gofynnir i chi alw heibio i drafod eich cais yn fwy manwl.
Bydd eich cais yn cael ei benderfynu cyn gynted ag y byddwn wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol. Yna, byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych chi beth yw'r penderfyniad. Os byddwn yn dyfarnu TTD i chi, bydd y llythyr yn dweud wrthych faint a gewch ac am ba gyfnod.
Ymgeisio am daliadau tai yn ôl disgresiwn
Gallwch wneud cais am TTD pan fydd gennych:
- hawl gyfredol i fudd-dal tai, neu elfen tai y credyd cynhwysol
- diffyg rhwng faint o fudd-dal neu gredyd a gewch a'ch costau tŷ