Cyngor cynllunio cyn gwneud cais
Rydym yn eich annog ac yn eich croesawu i wneud ymholiadau am gyngor cyn cyflwyno cais.
Mae dwy ffordd o weld cyngor cynllunio cyn cais. Y gwasanaeth statudol yw’r cyntaf, sy’n codi tâl sefydlog y mae Llywodraeth Cymru’n penderfynu arno, a gwasanaeth ychwanegol, mwy cynhwysfawr yw’r ail.
Gwasanaeth cyn-ymgeisio statudol
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn Ymgeisio) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaeth cyn cais statudol.
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen ymholiad am gyngor cyn gwneud cais wedi ei chwblhau sy’n cynnwys gwybodaeth benodol. Man lleiaf bydd gofyn iddynt ddarparu:
- enw, cyfeiriad a’ch manylion cyswllt
- Disgrifiad o’r cynnig, gan gynnwys arwydd o’r cynnydd yn y gofod llawr, a/neu nifer yr unedau newydd arfaethedig
- cyfeiriad y safle
- cynllun lleoliad
- ffi
Mae’r ffi y gellir ei godi ar gyfer gwasanaethau cyn gwneud cais statudol yr un fath dros Gymru, er y gallent amrywio gan ddibynnu ar faint a graddfa’r datblygiad arfaethedig. Y ffioedd yw:
- Perchennog tŷ: £25
- Mân ddatblygiad: £250
- Datblygiad sylweddol: £600
- Datblygiad mawr sylweddol: £1,000
Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i ni roi ymateb ysgrifenedig i bob ymholiad cyn cais dilys o fewn 21 o ddiwrnodau, oni gytunir ar estyniad amser.
Fan lleiaf, dylai ymgeiswyr am ddatblygiadau deiliaid tŷ ddisgwyl cael y wybodaeth ganlynol yn yr ymateb ysgrifenedi:
- hanes cynllunio perthnasol y safle
- y polisïau cynllun datblygu perthnasol fydd yn sail i asesiadau o’r cynnig datblygu
- canllawiau cynllunio atodol perthnasol, er enghraifft, gwybodaeth ddylunio neu gadwraeth
- unrhyw ystyriaethau cynllunio sylweddol
- asesiad cychwynnol o’r datblygiad arfaethedig, ar sail y wybodaeth uchod
Ar gyfer pob cynnig datblygu arall, dylid hysbysu ymgeiswyr hefyd a yw'n debygol y bydd angen unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol, a gwybodaeth am yr hyn y gall y cyfraniadau hyn ei gynnwys.
Yn achos pob datblygiad datblygu arall, dylai ymgeiswyr gael gwybod p’un a fydd unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol yn debygol o fod yn ofynnol, a gwybodaeth am yr hyn allasai fod yn rhan o’r cyfraniadau hynny.
Fyddwn ni ddim yn derbyn ffurflen gais am gyngor cyn cais oni thelir y ffi briodol.
Gwasanaeth cyn cais anstatudol ychwanegol
Hyrwyddo gwaith datblygu o safon yw’n nod.
Mae Llywodraeth Cymru’n annog awdurdodau cynllunio lleol i ddarparu gwasanaeth cyn cais mwy cynhwysfawr na’r hyn sy’n ofynnol yn statudol, ac mae’n cydnabod y bydd angen i ni godi tâl ychwanegol amdano.
Ni fydd cyngor ysgrifenedig, cyngor nac ymweliadau safle ychwanegol yn rhan o ymholiadau cyn cais yn rhan o’r gwasanaeth statudol.
Mae’r ddogfen isod yn amlinellu’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan ein canllawiau cynllunio cyn cais.