Dolenni cysylltiedig
- Moch daear
- Ystlumod
- Adar
- Cysylltiadau ac adnoddau
- Pathewod
- Arolygon ecolegol
- Madfallod dŵr cribog
- Rhywogaethau ymledol
- Cynefinoedd blaenoriaeth
- Ymlusgiaid ac amffibiaid
- Coed
- Clirio llystyfiant
Mae gan rai planhigion ac anifeiliaid yng Nghymru warchodaeth arbennig. Fel rheol, y rheswm am hyn yw oherwydd eu statws cadwriaethol bregus, sydd, efallai, oherwydd:
Mae’r rhywogaethau hyn yn cael eu gwarchod gan gyfreithiau annibynnol ar ddeddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref yng Nghymru, ond yn gysylltiedig â hi.
Y prif ddeddfau sy’n gwarchod bioamrywiaeth yng Nghymru a Lloegr yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Fodd bynnag, mae haen arall o ddeddfwriaeth ar lefel Ewropeaidd. Mae Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) 1994 (y Rheoliadau Cynefinoedd) yn gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd sy’n berthnasol i’r rhywogaethau sydd wedi’u rhestru yn Atodiadau IV a V y Gyfarwyddeb. Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 yn cadarnhau’r holl ddiwygiadau amrywiol sydd wedi’u gwneud i reoliadau 1994 ynghylch Cymru a Lloegr.
Yn ogystal â rhywogaethau dan warchodaeth gyfreithiol, mae gan y broses gynllunio a datblygu rôl sylfaenol i’w chwarae mewn rheoli a lleddfu pwysau ar rywogaethau. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn dweud ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol warchod bywyd gwyllt a nodweddion naturiol, gan roi pwys priodol i gynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth mewn Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth.
Os bydd datblygiad yn effeithio mae’n debyg ar safle dynodedig neu gynefin/rhywogaeth dan warchodaeth neu flaenoriaeth, rhaid asesu’r effaith debygol.
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn dweud: “mae presenoldeb rhywogaeth dan warchodaeth o dan ddeddfwriaeth Ewrop a’r DU yn ystyriaeth sylfaenol wrth i awdurdodau cynllunio lleol ystyried cynigion datblygu sy’n…debygol o niweidio neu darfu ar y rhywogaeth neu’r cynefin”.
Felly rhaid i bresenoldeb neu absenoldeb rhywogaeth dan warchodaeth, ac i ba raddau y gall datblygiad arfaethedig effeithio arni, gael ei sefydlu cyn dyfarnu caniatâd cynllunio. Felly, dylid cynnal asesiad cynefin a gwaith arolygu am bresenoldeb neu absenoldeb a lefel defnydd cyn rhoi caniatâd. Mae’n arfer gorau cynnal arolwg o’r fath cyn cyflwyno cais cynllunio.
Os oes modd i ddatblygiad effeithio ar rywogaeth dan warchodaeth a bod yr awdurdod yn gofyn am arolwg, dylid ei gwblhau a gweithredu unrhyw fesurau angenrheidiol i warchod y rhywogaeth. Gall y rhain gynnwys drwy amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio cyn rhoi’r caniatâd.
O dan amgylchiadau priodol, gall y caniatâd hefyd orfodi amod yn atal y datblygiad heb sicrhau trwydded i ddechrau o dan y ddeddfwriaeth bywyd gwyllt gywir.
Mae cyfarwyddyd ychwanegol ar roi ystyriaeth i rywogaethau dan warchodaeth mewn datblygiadau ar gael yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio (2009). Mae’r ddogfen yma’n rhoi cyngor am sut dylai’r system cynllunio defnydd tir ychwanegu at warchod a gwella bioamrywiaeth a chadwraeth ddaearegol. Hefyd dylid ei darllen ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru.
Mae Atodiad 7 TAN 5 yn esbonio’r darpariaethau cyfreithiol ar gyfer gwarchod adar, moch daear, ac anifeiliaid a phlanhigion eraill. Hefyd mae’n esbonio lle bydd angen trwyddedau efallai ar gyfer rhai gweithrediadau. Mae rhestr o’r holl rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion dan warchodaeth ar gael yn Nhabl 2 Atodiad 8 TAN 5.
Mae rhagor o gyfarwyddyd am safleoedd a rhywogaethau dan warchodaeth yng Nghymru ar gael o sawl ffynhonnell, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gwarchod rhywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd
Mae Rhywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd (EPS), eu safleoedd magu a’u mannau gorffwys, wedi’u gwarchod rhag niwed a tharfu arnynt. Hefyd mae planhigion EPS o dan warchodaeth. Os oes gennych chi bwrpas dilys, gall CNC ddyfarnu trwydded i chi i ymgymryd â gwaith sy’n effeithio ar EPS yn gyfreithiol, ac osgoi torri’r gyfraith.
Mae deddfwriaeth berthnasol i rywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd yn berthnasol pa un ai ydynt mewn safle dynodedig ai peidio. Bydd angen arolwg ecolegol rhagarweiniol i gadarnhau presenoldeb rhywogaeth dan warchodaeth ac asesiad o effaith debygol y datblygiad ar y rhywogaeth. Bydd hyn yn sail i’r broses o wneud penderfyniadau cynllunio.
Os oes EPS yn gysylltiedig, byddwn yn ymgynghori â CNC, yr awdurdod trwyddedu, cyn dyfarnu caniatâd cynllunio.
Pan mae rhywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd yn bresennol ar y safle, bydd rhaid i’r datblygwr wneud cais am randdirymiad (trwydded datblygu) gan CNC.
Fel awdurdod cymwys o dan Reoliadau Cadwraeth Rhywogaethau a Chynefinoedd 2010 (‘Rheoliadau Cynefinoedd’), rhaid i ni ystyried gofyniad y Gyfarwyddeb Cynefinoedd er mwyn sefydlu system o waharddiad llwyr. Hefyd rhaid i ni ystyried mai dim ond pan fodlonir tri phrawf (TAN 5, 6.3.6) Erthygl 16 Cyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd y caniateir rhanddirymiad.
Er mwyn cydymffurfio â’n dyletswydd o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, bydd rhaid i ni ystyried y tri phrawf yn ein penderfyniad. (Gweler yr Adolygiad Barnwrol o Woolley vs Cyngor Bwrdeistref Dwyrain Sir Caer 2009). Rhaid ymgynghori â CNC ynghylch a yw’r tri phrawf yma’n cael eu bodloni cyn penderfynu ynghylch y cais.
Bioamrywiaeth yw amrywiaeth y bywyd ar y ddaear. Mae’n cynnwys yr holl rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid a’r rhwydwaith o systemau sy’n eu cynnal. Mae cadwraeth a gwella bioamrywiaeth yn elfennau allweddol o ddatblygu cynaliadwy.
Mae colli bioamrywiaeth a’r effaith amgylcheddol negyddol o ganlyniad yn mynd yn groes i amcanion a nodau datblygu cynaliadwy. Mewn egwyddor, ni ddylai datblygu cynaliadwy arwain at golli bioamrywiaeth nac adnoddau naturiol.
Mae llawer o’r pwysau ar fioamrywiaeth yn ymwneud â datblygu a defnyddio tir. O ganlyniad, mae gan y broses gynllunio a datblygu rôl sylfaenol i’w chwarae mewn rheoli a lleddfu’r pwysau hwn. Gall methu rhoi sylw i faterion bioamrywiaeth arwain at wrthod cais cynllunio.
Dywed Adran 40 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006 ei bod yn ddyletswydd i bob awdurdod cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr ystyried diben gwarchod bioamrywiaeth yn eu gwaith.
Un diben yn y ddyletswydd hon yw ymgorffori ystyried bioamrywiaeth fel rhan greiddiol o bolisïau a phenderfyniadau ar draws y sector cyhoeddus.
Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (UK BAP) yn disgrifio adnoddau biolegol y DU ac yn datgan cynllun ar gyfer ei warchod. Dyma ymateb y DU i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol sydd wedi’i lofnodi yn 1992 gan ymrwymo i atal dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2010.
Mabwysiadodd pedair gwlad y DU argymhellion yr arbenigwyr a chyhoeddwyd rhestr y DU o rywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth fis Awst 2007. Mae’r rhestr hon yn ganlyniad y dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr erioed i’w gynnal yn y DU. Mae’n cynnwys 1150 o rywogaethau a 65 o gynefinoedd sydd wedi cael eu rhestru fel blaenoriaeth ar gyfer gweithredu cadwriaethol.
Dim ond pan rydym yn fodlon bod y tri phrawf yma’n debygol o gael eu bodloni fydd caniatâd cynllunio yn cael ei ddyfarnu. Os na fydd hynny’n digwydd, efallai y bydd modd cyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio (TAN5, 6.3.6). Gall dull teg o weithredu addasu sut mae’r profion yn cael eu rhoi ar waith. Hynny yw, bydd difrifoldeb y profion yn cynyddu gyda graddfa’r effaith negyddol ar rywogaethau/poblogaethau.
Ydi’r rhanddirymiad er budd iechyd cyhoeddus a diogelwch cyhoeddus, neu am resymau hanfodol eraill sydd o fudd mwy i’r cyhoedd? Byddai hyn yn cynnwys buddiannau cymdeithasol neu economaidd, neu rai sydd o fudd yn bennaf i’r amgylchedd.
Dim ond buddiannau cyhoeddus a hybir gan gyrff cyhoeddus neu breifat ellir eu cydbwyso yn erbyn amcanion cadwraeth. Ni fyddai prosiectau o fudd llwyr i gwmnïau neu unigolion yn dderbyniol yn gyffredinol.
Hefyd rhaid i’r budd cyhoeddus fod yn bwysicach na dim ac, o’r herwydd, nid yw pob math o fudd cyhoeddus yn ddigonol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae budd cyhoeddus yn debygol o fod yn bwysicach os yw’n cynnig budd tymor hir ac yn darparu manteision tymor hir.
Oes opsiwn arall boddhaol?
Rhaid i ddadansoddiad o unrhyw opsiwn arall boddhaol ystyried y canlynol:
O blith yr opsiynau, dewiswch y mwyaf priodol, a fydd yn sichrau’r warchodaeth orau i’r rhywogaeth wrth roi sylw i’r sefyllfa. Gallai hyn gynnwys lleoliadau neu lwybrau eraill, gwahanol raddfeydd neu gynlluniau datblygu neu brosesau neu ddulliau amgen. Rhaid i randdirymiad fod yn ddewis olaf.
Hefyd rhaid i’r gwerthusiad hwn ystyried a oes unrhyw opsiwn arall yn foddhaol. Rhaid seilio’r gwerthusiad ar ffactorau y gellir eu dilysu’n wrthrychol, fel ystyriaethau gwyddonol a thechnegol. Hefyd, rhaid cyfyngu’r dull o weithredu i’r raddfa sy’n angenrheidiol i roi sylw i’r sefyllfa.
Os oes opsiwn arall yn bodoli, bydd rhaid i unrhyw ddadleuon ei fod yn anfoddhaol lwyddo i ddarbwyllo. Ni ellir ystyried opsiwn arall yn anfoddhaol oherwydd y byddai’n achosi mwy o anhwylustod neu’n gorfodi newid ymddygiad.
Ydi’r rhanddirymiad yn anniweidiol i gynnal poblogaeth y rhywogaeth ar sail statws cadwraeth ffafriol yn ei hamrediad naturiol?
Fel rheol bydd rhaid i asesiad o effaith rhanddirymiad penodol fod ar lefel leol er mwyn iddo fod yn ystyrlon i’r cyd-destun penodol. Gall hyn olygu lefel safle neu boblogaeth.
Rhaid gwahaniaethu rhwng dau beth wrth roi prawf tri ar waith:
Mewn achosion lle mae’r statws cadwraeth yn wahanol ar y gwahanol lefelau a asesir, ystyriwch y sefyllfa ar y lefel boblogaeth i ddechrau.
Gyda dinistrio safle magu neu fan gorffwys, mae’n haws cyfiawnhau rhanddirymiad:
I gynorthwyo’r broses gynllunio lle mae rhywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd yn bresennol ar y safle, argymhellir y canlynol:
Mae manylion am ofynion y datganiad dull hwn ar gael gan adran drwyddedu EPS Cyfoeth Naturiol Cymru.
Os yw cyngor CNC yn cadarnhau y bydd prawf tri yn cael ei fodloni a’n bod wedi penderfynu bod y tri phrawf yn cael eu bodloni, dylid dyfarnu caniatâd. Bydd hyn ar yr amod bod yr holl fesurau lliniaru fel y cymeradwywyd gan CNC yn cael eu gweithredu’n llawn.
Bydd y canlynol yn cael ei atodi fel darn o wybodaeth (II037) gyda’r caniatâd cynllunio:
“Os oes unrhyw rywogaeth sydd wedi’i rhestru o dan Atodlenni 2 neu 5 Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 ar y safle, neu unrhyw ardal arall a nodir, y mae’r caniatâd hwn yn cael ei ddyfarnu mewn perthynas â hi, ni ddylid gwneud unrhyw waith clirio safle, dymchwel nac adeiladu oni bai fod trwydded i darfu ar rywogaeth o’r fath wedi’i dyfarnu gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn unol â’r rheoliadau sydd wedi’u crybwyll eisoes.”
Mae hyn yn dilyn cyfarwyddyd TAN5 (6.2.1) Llywodraeth Cymru ac yn cyflawni yn rhannol y gofyniad o dan S25(1) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd).
Cyfeirir hefyd at ddarpariaethau Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 yn rhesymau dros gymeradwyo’r swyddog cynllunio.
Wrth wneud cais am eu trwydded, rhaid i ymgeiswyr anfon copi o ddogfen ymgynghori’r awdurdod lleol at y swyddog cynllunio. Mae hon yn rhan o gais Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r ffurflen yma’n gofyn am fanylion gennym ni i ddangos bod y tri phrawf wedi cael eu bodloni a’u hystyried fel rhan o’r penderfyniad cynllunio. Hefyd mae’n ffurfio cofnod o gydymffurfiaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl). Os bydd ymchwiliad gan yr heddlu, gallai cofnodion o’r fath fod yn dystiolaeth werthfawr bod yr ACLl wedi ymarfer diwydrwydd dyladwy.
Mae dogfen gyfarwyddyd y Gymuned Ewropeaidd ar warchodaeth lem i rywogaethau o anifeiliaid sydd o fudd cymunedol o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EEC yn cynghori ymhellach ar sut ddylid ystyried y profion.
Y Rhywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd mwyaf cyffredin yng Nghymru:
Mae’r anifeiliaid canlynol wedi’u rhestru yn Atodlen 2 y Rheoliadau Cynefinoedd:
Mae’r planhigion canlynol yng Nghymru yn Rhywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd (EPS) sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 5 Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010:
Trwyddedu Rhywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd
Mae gan CNC ddull safonol o ymgeisio am drwyddedau ar gyfer datblygiad. Yn gryno, mae cais am drwydded yn gofyn i’r datblygwr neu’r perchennog tir a fydd yn gwneud y gwaith arfaethedig benodi ecolegydd cymwys a phrofiadol. Rhaid enwi’r ecolegydd yn y cais am drwydded. Mae’n debygol y bydd yr ecolegydd a benodir yn gyfrifol am gydlynu’r cais am drwydded, sy’n gofyn am lenwi ffurflen gais neu ddatganiad dull.
Rhaid i’r datganiad dull fod yn unol â fformat cymeradwy Cyfoeth Naturiol Cymru, a’i roi gyda’r wybodaeth yn y cais am drwydded. Bydd yn cyflwyno’r un wybodaeth i raddau helaeth â’r wybodaeth rydym ni ei hangen fel sail i’r cais cynllunio.
Ar ôl i CNC dderbyn cais, fel rheol bydd yn cymryd hyd at 30 diwrnod i wneud penderfyniad.
Bydd y drwydded a ddyfernir yn cynnwys amodau a dim ond gyda’r datganiad dull cymeradwy fydd y drwydded yn ddilys. Dim ond y gweithgareddau hynny mae’r Datganiad Dull yn eu nodi fydd y drwydded yn eu caniatáu. Felly mae’n bwysig i ddatblygwyr a pherchnogion tir adolygu a chytuno yn ofalus ar ddatganiad dull cyn ei gyflwyno i CNC.
Nod y gweithgareddau a’r mesurau y manylir arnynt mewn trwydded yw osgoi niwed diangen i’r rhywogaethau dan warchodaeth. Gall methu dilyn y mesurau union arwain at erlyn. Gall unrhyw weithgaredd a wneir ac sy’n gwyro’n sylweddol oddi wrth y datganiad dull trwyddedig gael ei ystyried fel un sy’n mynd yn groes i’r drwydded. Mae hyn yn cynnwys gwaith a wneir mewn lleoliadau gwahanol, defnyddio dulliau gwahanol neu ar amser gwahanol i’r un a nodir yn y datganiad dull. Hefyd gall unrhyw waith sydd wedi’i nodi yn y datganiad dull nad yw’n cael ei wneud fel y manylir gael ei ystyried fel gwaith sy’n mynd yn groes i’r drwydded. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
Mae mynd yn groes i’r drwydded yn drosedd gyfreithiol. O dan y deddfau presennol, gall unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i gwblhau gweithgareddau o dan y drwydded gael ei ddal yn gyfrifol am fynd yn groes iddi o ran telerau ac amodau.
Felly, dylai’r holl staff a’r contractwyr ar y safle gael eu briffio’n llawn am y drwydded a’i goblygiadau ar gyfer gweithio yno, cyn cael dechrau gweithio ar y safle. Bob amser, ar y safle, rhaid cael y canlynol:
Mae gan drwyddedau ddyddiad dod i ben. Os oes angen parhau â’r gwaith wedi hynny, rhaid gwneud cais am estyniad. Ni ellir rhoi estyniadau ar gyfer trwyddedau sydd wedi dod i ben. Ar ôl i drwydded ddod i ben, rhaid gwneud cais newydd am drwydded. Gan ddibynnu ar yr amser ers iddi ddod i ben, efallai y bydd angen arolygon ychwanegol, i sicrhau bod gwybodaeth fanwl gywir, wedi’i diweddaru, yn cefnogi’r cais am drwydded.
Trwyddedu Rhywogaethau Dan Warchodaeth y DU
Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (WCA) 1981 yn rhestru’r rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid dan warchodaeth ar atodlenni amrywiol, gyda gwahanol lefelau o warchodaeth yn unol â’u hanghenion. Gall CNC roi trwyddedau at sawl diben o dan y ddeddfwriaeth hon, gan gynnwys dibenion gwyddonol, ymchwil, addysgol, cadwraeth a ffotograffiaeth, ond nid ar gyfer datblygu.
Nid yw’r WCA yn caniatáu i CNC roi trwydded bywyd gwyllt os yw gweithgareddau datblygiad yn effeithio ar rywogaethau dan warchodaeth yn y DU. Mae hyn yn golygu y gall hyn fod yn anghyfreithlon os yw’r gwaith datblygu’n effeithio ar rywogaethau o dan warchodaeth y WCA. Dim ond amddiffyniad ‘canlyniad anfwriadol gweithred gyfreithlon fel arall’ fyddai datblygwr yn gallu ei ddefnyddio pe rhoddid gweithrediadau gorfodi ar waith o dan yr amgylchiadau hyn. Gall datblygwyr gefnogi eu hamddiffyniad os gallant ddangos bod y gwaith yn dilyn arfer da ac yn cael ei wneud yn unol â chaniatâd sydd wedi’i ddyfarnu yn gyfreithlon, fel caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, yn y pen draw, y llysoedd fydd yn penderfynu ynghylch hyn.
Mae Rhan I Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn gwarchod yr anifeiliaid gwyllt sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 5, nad ydynt yn rhywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd i raddau helaeth.
Gyda rhai eithriadau a heb drwydded neu amddiffyniad perthnasol, mae’n drosedd gwneud y canlynol mewn perthynas ag unrhyw anifail gwyllt sydd wedi’i restru yn Atodlen 5:
Os oes unrhyw adar, anifeiliaid neu blanhigion sydd wedi’u gwarchod o dan Atodlen 1, 5 ac 8 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn bresennol ai peidio, rydym yn argymell yn gadarn eich bod yn cynnal arolygon cyn ystyried cynigion datblygu. Efallai y canfyddir rhywogaethau dan warchodaeth mewn amrywiaeth o gynefinoedd, yng nghefn gwlad ac mewn rhai sefyllfaoedd trefol.
Gall presenoldeb rhywogaethau dan warchodaeth effeithio ar raglennu gwaith a chwmpas datblygiad. Fodd bynnag, gall ystyriaeth gynnar ddatrys y rhan fwyaf o’r gwrthdaro posib ac osgoi oedi drud. Mae’n ddoeth gwneud hyn cyn prynu safle hyd yn oed, oherwydd gall presenoldeb rhywogaethau dan warchodaeth effeithio ar gwmpas datblygiad. Dylai’r arolwg maes gadarnhau a yw rhywogaethau dan warchodaeth yn debygol o fod yn bresennol.
Dylid ystyried asesiad ar gyfer rhywogaethau dan warchodaeth mewn cam cynnar ar unrhyw safle sy’n gartref iddynt. Dylech asesu pa mor bwysig yw’r safle o ran y rhywogaethau dan warchodaeth.
Os oes rhywogaethau dan warchodaeth yn bresennol yn lleol ac os yw’r safle’n gartref i gynefin posib, rydym yn disgwyl derbyn cynlluniau arolygu a lliniaru cyn penderfynu ar geisiadau cynllunio. Gall amodau cynllunio a chytundebau eraill gael eu cynnwys gyda chaniatadau, i sicrhau cadwraeth effeithiol ar rywogaethau a effeithir.
Weithiau mae angen asesiadau amgylcheddol cyn ystyrir caniatâd cynllunio. Mae hyn yn bennaf ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr.
Dylid gofyn i Ganolfan Cofnodion Biolegol De Ddwyrain Cymru gynnal archwiliad am rywogaethau dan warchodaeth fel sail i’r ymdrech arolygu. Hefyd efallai bod gan sefydliadau perthnasol eraill ddata defnyddiol, gan gynnwys CNC, a grwpiau diddordeb y rhywogaethau yn lleol.
Fodd bynnag, yn seiliedig ar yr wybodaeth bresennol ac asesiad cynefin, efallai na fydd angen arolwg newydd os yw eich cynghorwyr ecolegol yn sicr o’r canlynol:
Os oes angen lliniaru a gwneud iawn, cyflwynwch y cynlluniau hyn gyda’r cais. Bydd hyn yn caniatáu gwerthusiad llawn o effeithiau’r datblygiad a’r mesurau i warchod rhywogaethau dan warchodaeth. Hefyd gall helpu gyda chyflymu’r broses o wneud penderfyniadau.
Gellir cynnwys nodweddion cyfeillgar i rywogaethau dan warchodaeth yng nghynllun y dirwedd. Ochr yn ochr â lliniaru, gall y datblygiadau osgoi effeithio ar rywogaethau dan warchodaeth a sicrhau budd clir i’r amgylchedd.
Os dyfernir caniatâd cynllunio, mae’r gyfraith sy’n gwarchod rhywogaethau dan warchodaeth yn berthnasol o hyd, hyd yn oed os nad oes amodau perthnasol i rywogaethau dan warchodaeth. Oherwydd hyn, rhaid i ddatblygwyr wneud pob ymdrech resymol i ddiogelu rhywogaethau dan warchodaeth. Yn yr un modd, efallai na fydd rhai gweithgareddau sy’n gwneud difrod, fel ymchwiliadau archeolegol, angen caniatâd cynllunio, ond gallent fod yn anghyfreithlon yr un fath o’u cwblhau heb ofal priodol.
Bydd ystyriaethau eraill yn cael eu harchwilio, fel a oes rhywogaethau o bwysigrwydd mawr yng Nghymru (S.42) a rhywogaethau blaenoriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU. Mae Polisi ENV6 Cadwraeth Natur ein Cynllun Datblygu Lleol yn disgwyl i ddatblygwyr osgoi neu oresgyn niwed i asedau cadwraeth natur a/neu fywyd gwyllt, a all fod:
Nodyn cyfarwyddyd pump:
Os yw’n rhesymol debygol y bydd datblygiad yn effeithio ar gynefin neu rywogaeth flaenoriaeth, rhaid cynnal asesiad o’r effaith debygol. Bydd yr asesiad hwn yn gorfod bod ar ffurf arolwg ac adroddiad ecolegol.
Fel rheol, mae datblygiadau sy’n cael effaith niweidiol ar yr uchod yn annerbyniol.
Cofiwch y bydd cyfyngiadau tymhorol ar y gwaith arolygu sydd ei angen fel sail i asesiadau o’r fath. Gweler y daflen gyfarwyddyd ‘Gofynion Arolygu’. Gall trafod anghenion arolygu am fioamrywiaeth yn y cam cyn-ymgeisio leihau’r tebygolrwydd o oedi wrth i ofynion arolygu gael eu datgan yn nes ymlaen.
Nodyn cyfarwyddyd chwech
Dim ond mewn achosion arbennig, lle mae pwysigrwydd datblygiad yn fwy na’r effaith ar y nodwedd, fyddai effaith niweidiol yn cael ei chaniatáu. Mewn achosion o’r fath, bydd amodau neu rwymedigaethau cynllunio’n cael eu defnyddio i liniaru’r effaith.
Dylid gwneud iawn yn llwyr am golli neu ddifrodi unrhyw gynefin neu rywogaeth yn y CGB. Gellir gwneud iawn amdanynt ar sail tebyg am debyg ar y safle neu oddi ar y safle fel rhan o gynllun gwneud iawn am fioamrywiaeth.
I adlewyrchu colli ansawdd cynefin, efallai y bydd angen gwneud iawn gydag ardal fwy na’r un a gollwyd oherwydd effaith y datblygiad. Y nod yw sicrhau na chollir unrhyw fioamrywiaeth drwy ddarparu mesurau gwneud iawn.
Dyma’r tair ffactor allweddol i’w hystyried wrth fanylu ar y cymarebau perthnasol:
Dylid trafod unrhyw golled arfaethedig ac unrhyw wneud iawn am y cynefinoedd uchod yn fanwl gyda ni yn y cam cyn-ymgeisio, fel yr argymhellir gan y polisi cenedlaethol (PPW 5.5.1). Byddwn yn gallu rhoi cyngor i chi. Argymhellir cynnal trafodaethau cyn-ymgeisio gydag ymgynghoreion statudol fel CNC, yn ogystal ag ymgynghoreion anstatudol fel Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, os yw hynny’n briodol. Gellir ymgynghori â’r RSPB hefyd.
Dylid gwneud hyn ar y dechrau un yn y broses ddylunio. Bydd yn galluogi cynnwys mesurau lliniaru a gwneud iawn digonol ac addas yn y cynllun, yn ogystal ag er mwyn cynorthwyo proses ymgeisio’r adran gynllunio.
Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru swyddogaeth reoleiddiol ar gyfer amgylchedd dŵr. Mae eu gwefan yn rhoi llawer mwy o gyngor a gwybodaeth am y caniatadau a’r cydsyniad y bydd datblygwyr eu hangen ganddynt efallai.
Sylwer:
Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (CGP) yn manylu ar raglen ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth Prydain, ac mae hyn yn cynnwys rhestr o gynefinoedd sy’n flaenoriaethau cadwraeth.
Yn unol ag adran 42 y Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (2006), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o fathau o gynefinoedd. Yn marn y Llywodraeth, mae’r rhain o bwysigrwydd mawr i warchod bioamrywiaeth yng Nghymru.
Mae’r rhestr yn cynnwys 51 allan o’r cyfanswm o 65 o gynefinoedd CGP y DU gyda thri chynefin morol ychwanegol penodol i Gymru. Mae’r rhestr hon yn fan cyfeirio pendant ar gyfer pob corff statudol ac anstatudol sy’n rhan o’r gweithrediadau sy’n effeithio ar fioamrywiaeth yng Nghymru.
Hefyd dylai roi arweiniad ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, fel awdurdodau lleol a rhanbarthol, wrth iddynt weithredu eu dyletswyddau statudol. Dylai eu gorfodi i ystyried cadwraeth bioamrywiaeth wrth gyflawni eu swyddogaethau arferol.
Gallai anwybyddu neu roi sylw annigonol i botensial datblygiad i effeithio ar gynefinoedd neu rywogaethau bywyd gwyllt pwysig arwain at oedi gyda phrosesu ceisiadau neu wrthod caniatâd. Mewn rhai achosion, gallai oedi neu atal gweithredu caniatâd cynllunio, fel pan ganfyddir rhywogaethau dan warchodaeth ar safle datblygu ar ôl i waith ddechrau.
Datblygwyd Cynlluniau Gweithredu Cynefinoedd (CGC) Perthnasol i roi sylw i’r camau gweithredu gofynnol er mwyn helpu i warchod llawer o rywogaethau allweddol y fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, nid yw rhai rhywogaethau wedi’u gwarchod yn ddigonol gan y cynlluniau gweithredu cynefinoedd, a lluniwyd Cynlluniau Gweithredu Rhywogaethau (CGRh) unigol ar eu cyfer.
Cynhyrchwyd CGRh ar gyfer y canlynol:
Os yw cynigion datblygu’n debygol o effeithio ar gynefinoedd neu rywogaethau lleol neu genedlaethol y CGB, mae’r un egwyddorion yn berthnasol ag i safleoedd wedi’u dynodi yn lleol (TAN 5; 5.5.4).
Mae gan safleoedd lleol ran bwysig i’w chwarae mewn cyrraedd targedau bioamrywiaeth ac ychwanegu at ansawdd bywyd a lles y gymuned. Mae buddiannau cadwraeth natur yn ystyriaeth sylfaenol mewn penderfyniadau cynllunio (TAN 5) ac mae polisïau Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu ar gyfer eu gwarchod.
Felly, fel gyda safleoedd dynodedig, mae TAN 5 yn disgwyl i ddatblygwyr nodi sut gall eu cynigion effeithio ar gynefinoedd a rhywogaethau’r CGB, yn bositif neu’n negatif. Os yw hynny’n berthnasol, rhaid iddynt nodi sut gallai safleoedd datblygu arfaethedig gyfrannu at rwydweithiau neu fosaig ecolegol ehangach.
Mae’r grwpiau cynefinoedd canlynol yn cael eu hadnabod fel Cynefinoedd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig (UKBAP). Maent i’w gweld ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac wedi’u cynnwys yn y CGB lleol, sy’n nodi blaenoriaethau ar lefel sirol.
Mae’r cynefinoedd o goetiroedd a gwrychoedd yn cynnwys y canlynol:
Mae’r cynefinoedd glaswelltir yn cynnwys y canlynol:
Mae’r cynefinoedd corstir yn cynnwys y canlynol:
Mae’r cynefinoedd rhostir yn cynnwys y canlynol:
Mae’r cynefinoedd arfordirol, morol a chraig yn cynnwys y canlynol:
Mae’r cynefinoedd dŵr yn cynnwys y canlynol:
Mae’r cynefinoedd eraill yn cynnwys y canlynol:
Nodyn cyfarwyddyd saith:
Nid yw rhai o’r cynefinoedd hyn yn cael gwarchodaeth statudol, ond maent yn cael eu gwarchod gan bolisi cynllunio.
Mae’r warchodaeth a gynigir gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a’r Rheoliadau Cynefinoedd (2010) yn ychwanegol at yr hyn a gynigir gan y system gynllunio.
Mae Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i gyrff cyhoeddus warchod bioamrywiaeth. Felly, mae’n hanfodol bod cydbwysedd rhwng datblygiadau a gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau presennol sy’n cyfrannu at ein bioamrywiaeth. Mae Polisi ENV6 Cadwraeth Natur y CDLl (4.1.26) yn pwyso a mesur lleoliad, cynllun a llunwedd datblygiadau neu ailddatblygiadau, a’r angen am warchod bioamrywiaeth safleoedd. Mae hefyd yn ystyried y buddiannau mewn unrhyw adnoddau cadwraeth natur cyfagos.
Yn unol ag adran 42 Deddf NERC (2006), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o’r rhywogaethau mae’n eu hystyried fel rhai allweddol ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth Cymru.
Mae gennym ni rwymedigaeth i warchod a hybu cadwraeth tymor hir rhywogaethau Adran 42 a rhywogaethau eraill fel rhan o’r broses gynllunio. Hefyd, rhaid i ni allu darparu llwybr archwilio clir ar gyfer unrhyw benderfyniadau a all effeithio arnynt. Felly, os yw’r rhywogaethau hyn yn bresennol, dylid gofyn am wybodaeth gan arbenigwyr priodol a’u hystyried yn y cynlluniau datblygu.
Mae ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) yn cynnwys manylion am gynefinoedd a rhywogaethau Adran 42 sy’n allweddol i gadwraeth natur ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ein cynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol ar gael ar System Cofnodi Gweithredu dros Fioamrywiaeth y DU (BARS).
Mae’r rhywogaethau yng nghynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys y canlynol:
Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis statws cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth fel prif ddangosydd i fesur y cynnydd cenedlaethol tuag at ddatblygiad cynaliadwy. Bydd datblygiadau yn y dyfodol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod statws cynefinoedd a rhywogaethau yn gwella.
Rhaid i ddatblygwyr/ymgeiswyr gael digon o dystiolaeth i ddangos bod osgoi yn amhosib cyn ystyried lliniaru neu wneud iawn fel opsiynau eraill posib.
Gall cynnwys mesurau osgoi mewn cynigion datblygu ddileu’r angen am waith arolygu manwl. Byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol gan CNC wrth benderfynu ar achosion lle mae hyn yn berthnasol.
Mesurau osgoi yw’r rhai y gellir eu gweithredu’n rhesymol er mwyn osgoi trosedd. O’r herwydd, gall y Mesurau Osgoi Rhesymol (MORhau) hyn osgoi’r angen am drwydded yn aml. MORhau yw’r dull a ffafrir wrth ystyried dyluniad y cynllun. Gall MORhau gynnwys mesurau fel y canlynol:
Os yw MORhau yn ymarferol ar gyfer cynllun, rhaid eu nodi mewn Datganiad Dull a anfonir atom ni ar gyfer cymeradwyaeth. Bydd gweithredu mesurau’r Datganiad Dull MORhau yn debygol o fod yn amod ar y caniatâd cynllunio a geir o ganlyniad.
Os yw’r MORhau yn osgoi’r holl effeithiau disgwyliedig i rywogaethau blaenoriaeth a’u cynefinoedd i lefelau annerbyniol, nid yw’n debygol y bydd angen trwydded gan CNC. Yn aml gall hyn osgoi neu leihau’r oedi gyda dechrau datblygiad a bydd yn lleihau costau yn aml hefyd. Felly mae’n bwysig creu sianelau cyfathrebu rhwng eich penseiri, tirlun neu fel arall, a’r ecolegydd cymwys rydych chi wedi’i ddewis wrth gynllunio ar y dechrau. Bydd hyn yn cynorthwyo gyda llywio’r cynllun a’r rhaglen yn ddigon cynnar er mwyn gweld pa MORhau sy’n ddull gweithredu addas.
Bydd dewis a chynnwys asedau seilwaith gwyrdd mewn datblygiad yn gynnar yn helpu i leihau effaith datblygu cynllun a darparu cyfleoedd ar gyfer MORhau. Hefyd mae’n osgoi cynlluniau lliniaru a gwneud iawn cymhlethach a fydd angen trwydded efallai.
Os nad oes modd osgoi niwed, dylid ei leihau gyda mesurau lliniaru.
Efallai y bydd yn amhosib dibynnu ar MORhau yn unig i roi sylw i’r holl effeithiau posib ar rywogaethau a chynefinoedd blaenoriaeth dan warchodaeth. Mae hyn yn dibynnu ar raddfa’r datblygiadau a’r effeithiau a ragwelir. Os oes rhywogaethau Ewropeaidd a than warchodaeth yn bresennol, efallai y bydd angen mesurau gwneud iawn. Mae cyfathrebu cynnar ar draws y tîm dylunio’n hybu gwell dealltwriaeth o’r holl gyfyngiadau ac yn galluogi dull cytbwys o weithredu ar gyfer cynllunio datblygiadau.
Os nad yw MORhau yn gallu osgoi effeithiau negyddol yn foddhaol, bydd angen mesurau lliniaru i atal niwed ac i sicrhau nad oes unrhyw golled net ar gynefinoedd. Bydd yr union fesurau gofynnol yn dibynnu ar y rhywogaeth, ei chynefin, maint y boblogaeth, ei dosbarthiad a’r agosrwydd at y gwaith, a hefyd graddfa, amseriad a hyd y gwaith.
Bydd y datganiad dull yn manylu ar y mesurau lliniaru i’w gweithredu. Os oes gweithgareddau trwyddedig, rhaid eu cwblhau gan gadw’n llym at y datganiad dull.
Dim ond os yw datblygwyr/ymgeiswyr wedi dangos yn foddhaol bod osgoi neu liniaru yn amhosib fydd gwneud iawn yn cael ei ystyried, a’r mesurau gwneud iawn ddim yn arwain at golled net ar gynefin.
Os nad yw lliniaru’n gallu lleihau’r holl effeithiau negyddol posib yn foddhaol, bydd angen mesurau gwneud iawn ychwanegol mae’n debyg. Os oes Rhywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd yn bresennol, efallai y bydd angen trwydded ar gyfer mesurau gwneud iawn.
Gan amlaf, mae mesurau gwneud iawn yn cynnwys colli cynefinoedd. Mae colli cynefinoedd yn gofyn am wneud iawn fel bod digon o gynefin i’r boblogaeth sydd wedi’i heffeithio allu magu, canfod bwyd a gwasgaru. Hefyd, rhaid cynnal maint y boblogaeth a’i hamrediad naturiol. Felly bydd yn bwysig ystyried cysylltedd rhwng cynefinoedd cadw, cynefinoedd newydd a chynefinoedd presennol yn yr ardal ehangach.
Rhai gwneud iawn am gynefin cyn eithrio safle a dal rhywogaeth dan warchodaeth. Mae hyn yn galluogi trosglwyddo rhywogaeth dan warchodaeth ac anifeiliaid eraill i’r ardal(oedd) gwneud iawn cyn i’r datblygiad darfu arnynt.
Fel rhan o ddull gweithredu’r seilwaith gwyrdd, dylid nodi, gwarchod a gwella cynefinoedd os yw hynny’n bosib. Gall hyn gynnwys y canlynol:
Gellir gwneud gwelliannau drwy gynnwys nodweddion naturiol mewn datblygiadau newydd priodol a sicrhau bod gan ffyrdd sy’n cael eu hadeiladu ar draws llwybrau mudo dwnelau neu bontydd i fywyd gwyllt.
Gall safleoedd datblygu mawr wella cynefinoedd cyfagos a choridorau cysylltu ar gyfer rhywogaethau dan warchodaeth a phlanhigion ac anifeiliaid eraill. Hefyd maent yn creu diddordeb naturiol i drigolion.
Ar hyn o bryd, rydym yn symud tuag at ddull gweithredu integredig ar raddfa tirlun gyda chadwraeth bioamrywiaeth. Y nod yw adfer cynefinoedd a rhywogaethau, a hefyd yr ecosystemau a’r gwasanaethau maent yn eu cefnogi. Bydd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwybodaeth a mapiau o gynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth.
Mae cyfraniad datblygiad yn dibynnu ar y canlynol:
Drwy CNC a chreu mapiau gwasanaethau ecosystemau, gall datblygwyr nodi darpariaeth, cymeriad a dosbarthiad cyfleoedd seilwaith gwyrdd.
Yn ogystal â gwarchod cynefinoedd blaenoriaeth, dylai datblygiadau sicrhau’r cyfraniad gorau posib at y seilwaith gwyrdd, a bod yn atebol am sut maent yn ychwanegu at wasanaethau ecosystemau.
Bydd gwella ein dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol yn arwain at ddeddfwriaeth a chyfarwyddyd pellach. Cyfrifoldeb y datblygwr yw sicrhau bod ei gynigion yn bodloni’r polisïau a’r canllawiau cyfredol.