Dolenni cysylltiedig
- Ystlumod
- Adar
- Cysylltiadau ac adnoddau
- Pathewod
- Arolygon ecolegol
- Madfallod dŵr cribog
- Rhywogaethau ymledol
- Dyfrgwn
- Cynefinoedd blaenoriaeth
- Ymlusgiaid ac amffibiaid
- Coed
- Clirio llystyfiant
Mae’r mochyn daear Ewrasiaidd (meles meles) yn famal nosol swil sy’n perthyn i’r un teulu â gwencïod, carlymod a dyfrgwn. Fel pobl, mae’n hollysol ac yn bwyta pryfed genwair ac aeron gan fwyaf.
Y mochyn daear yw cigysydd tir mwyaf Ynysoedd Prydain ar ôl yr arth a difodiant y blaidd. Mae’n pwyso tua 10 i 12 cilo ac mae tua metr o’i drwyn i’w gynffon.
Mae moch daear yn greaduriaid cymdeithasol ac maent yn byw gyda’i gilydd mewn daear fawr danddaearol sy’n cynnwys cyfres o dwnnelau’n cysylltu, gyda siambrau nythu, toiledau a sawl mynedfa.
Mae moch daear yn etifeddu eu daear gan eu rhieni, ac yn eu hehangu a’u gwella’n gyson. Weithiau, mae’r systemau enfawr o dwnnelau o ganlyniad yn ganrifoedd oed.
Mae’r mochyn daear yn defnyddio cynefinoedd amrywiol. Maent i’w gweld mewn ardaloedd trefol, cyrion trefol a gwledig ac maent yn defnyddio coetiroedd, tir amaethyddol amrywiol, parciau a gerddi ar gyfer chwilio am fwyd a chloddio eu daear.
Yn aml, mae gwrthdaro’n digwydd pan mae datblygiadau’n effeithio ar yr ardaloedd mae moch daear yn eu defnyddio’n draddodiadol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae eu lladd dan reolaeth yn y DU wedi tynnu sylw’r cyhoedd at adfyd moch daear.
Er eu bod i’w gweld yn eang yng Nghymru a Lloegr, mae sawl bygythiad wedi effeithio ar foch daear, gan gynnwys colli cynefin ac erlid bwriadol. Mae hyn wedi arwain at sefydlu deddfau penodol ar gyfer moch daear.
Mae moch daear yn cael eu gwarchod yn benodol o dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992. Mae’r ddeddf hon yn golygu bod gwneud y canlynol yn drosedd gyfreithiol:
Hefyd mae moch daear wedi’u rhestru yn Atodlen 6 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae Adran 11 Deddf 1981 yn gwahardd y defnydd o rai dulliau o gymryd neu ladd anifail gwyllt, gan gynnwys dyfeisiadau goleuo a rhai maglau.
O dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992, gall rhywun sy’n cael ei ganfod yn euog o dan delerau’r ddeddf orfod talu dirwy o £5000 a/neu fynd i garchar am 6 mis. Efallai y bydd rhaid ildio unrhyw offer a ddefnyddir i dorri’r gyfraith. Efallai y caiff unrhyw gi a ddefnyddir i gyflawni trosedd ei ddinistrio ac y bydd y troseddwr yn anghymwys wedyn i fod yng ngofal ci. Os oes amheuaeth resymol o droseddu, gall cwnstabl stopio a chwilio person neu gerbyd cysylltiedig heb warant, a chadw unrhyw beth sy’n dystiolaeth.
Cyfrifoldeb y datblygwr yw sicrhau na fydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar foch daear neu eu cynefinoedd. Mae angen trwydded ar gyfer gwaith gyda pheiriannau trwm o fewn 30m i ddaear mochyn daear, peiriannau ysgafn o fewn 20m a chloddio â llaw o fewn 10m.
Diffinnir daear moch daear fel ‘unrhyw strwythur neu le sy’n arddangos arwyddion sy’n dynodi defnydd presennol gan foch daear’. Bydd arolwg ecolegol yn cadarnhau a yw safle’n cynnwys neu’n gorwedd oddi mewn i ddylanwad daear moch daear. Yr amser gorau ar gyfer arolwg yw’r gwanwyn neu ddechrau’r hydref/gaeaf pan maent yn weithredol a llystyfiant newydd yn llai tebygol o guddio tystiolaeth.
Dim ond yn dymhorol mae ambell ddaear yn cael ei defnyddio. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried pob daear, gan gynnwys rhai tymhorol, fel rhai â moch daear yn byw ynddynt oni bai fod y dystiolaeth yn cadarnhau eu bod wedi bod yn wag am fwy na 12 mis. Mae difrodi neu gau daear heb y drwydded gywir yn drosedd oni bai fod modd dangos ei bod wedi bod yn wag am fwy na 12 mis.
Mae gan Standing Advice Species Sheet: Eurasian Badger (Badger) gan Natural England a Moch Daear a Datblygiadau gan CCGC gyngor pellach ar gynnal arolygon ar foch daear.
Os yw arolygon yn dangos y bydd cynigion datblygu’n effeithio ar foch daear, dylai’r ymgeiswyr ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru i weld a yw’r gwaith angen trwydded. Hefyd rhaid anfon datganiad dull gyda’r cais cynllunio er mwyn iddo gael ei gofrestru. Os credir bod y mesurau osgoi, lliniaru neu wneud iawn arfaethedig yn anfoddhaol, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwrthod y cais.
Rhaid i ddata’r arolwg ar foch daear gael eu ffurfio yn ddatganiad dull a gyflwynir i ni fel sail i’n penderfyniad cynllunio. Dylai’r datganiad dull fanylu ar ardal yr arolwg, cynigion y prosiect, dulliau arolygu a chanlyniadau. Dylai’r datganiad dull gynnwys yr asesiad effaith. Dylai’r effeithiau gael eu hystyried fel dros dro, tymor byr neu dymor hir, a dylid nodi graddfa pob effaith. Dylai’r datganiad dull gynnwys mesurau osgoi ymarferol ac, os nad yw osgoi yn bosib, darparu strategaeth liniaru fanwl gydag amserlen.
Hefyd, dylai’r datganiad dull nodi a oes angen trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru cyn dechrau ar weithgareddau datblygu. Dylai datblygwyr a pherchnogion tir nodi na fyddwn yn rheoli’r gwaith o gynhyrchu’r datganiad dull. Mae’r datganiad dull yn ein helpu ni i wneud penderfyniad am Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992 a’r angen am drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Nid yw’n debyg y bydd ceisiadau lle mae’r cynigion yn arwain at effaith ddisgwyliedig ar foch daear, ond heb ddatganiad dull priodol, yn cael eu dilysu. Os byddwn yn dilysu cais, ond bod yr wybodaeth am foch daear yn cael ei chanfod yn annigonol yn ystod y penderfyniad, gall hyn effeithio ar y penderfyniad cynllunio.
Gall gwaith ar safle gyda daear moch daear weithredol fod angen trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Dim ond ar ôl dyfarnu caniatâd cynllunio y gellir gwneud cais am drwydded.
Ni ellir gwneud cais am drwydded am yn ôl ar ôl i ddaear gael ei difrodi neu ar ôl tarfu arni. Cofiwch gynllunio ymlaen, oherwydd fel rheol bydd trwydded yn cymryd tua chwe wythnos i’w phrosesu. Er mwyn i CNC benderfynu ar gais am drwydded, rhaid i chi gadarnhau neu ddarparu’r canlynol:
Rydym yn argymell y dylai datblygwyr ymgynghori â CNC ynghylch daearau artiffisial arfaethedig cyn eu hadeiladu. Nid yw’r gyfraith yn caniatáu trwyddedau ar gyfer dal moch daear at ddibenion datblygu. Nid yw adleoli moch daear drwy drawsleoli yn opsiwn.
Am ragor o wybodaeth wedi’i diweddaru am sut i wneud cais am drwyddedau moch daear a gyflwynir gan CNC a Llywodraeth Cymru, ewch i wefan CNC.
Rhaid i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ddigonol i ddangos bod osgoi yn amhosib cyn ystyrir lliniaru a gwneud iawn fel opsiynau eraill.
Y ffordd symlaf i osgoi tarfu ar foch daear yw peidio â datblygu lle mae daear/au wedi’u lleoli. Rhaid sicrhau nad yw gwaith yn digwydd yn agos at y ddaear/au ar ôl iddi dywyllu hefyd, er mwyn osgoi tarfu.
Defnyddir daearau moch daear gan yr un teulu o foch daear am genedlaethau, a’u llwybrau chwilio am fwyd. Bydd moch daear yn debygol o ddifrodi rhwystrau neu ffensys sydd ar draws eu llwybrau chwilio am fwyd, gan eu bod bob amser bron yn defnyddio’r un llwybrau. Drwy fonitro dros gyfnod o amser, gellir deall patrymau symud ac arferion moch daear a gellir osgoi tarfu diangen a gwaith atgyweirio drud.
Gyda niferoedd y moch daear yn y rhan fwyaf o Ewrop yn dirywio, mae’r DU yn un o gadarnleoedd y rhywogaeth. Mae moch daear yn Brydeinwyr hynafol ac maent wedi byw ochr yn ochr â ni am amser maith iawn. Mae’r gweddillion ffosil cynharaf yn dyddio yn ôl 250,000 o flynyddoedd. Mae rhai daearau wedi bod yn gartref i foch daear am genedlaethau lawer ac mae un ddaear yn Sir Derby yn Llyfr Domesday hyd yn oed.
Os nad oes modd osgoi niwed, dylai mesurau lliniaru ei leihau.
Os nad oes modd osgoi niwed i ddaear neu’r moch daear ynddi, gellid adleoli, eithrio neu ddarparu daear artiffisial fel dull o liniaru. Fodd bynnag, dylid penderfynu ar y dulliau lliniaru penodol gan ymgynghori â CNC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Byddant yn dod o dan drwydded.
Rhaid creu parth eithrio o amgylch daear moch daear, neu gerllaw’r safle. Hyd yn oed os nad yw daear yn rhan o’r datblygiad ei hun, bydd angen parth eithrio os yw daear o fewn 30m i ddatblygiad.
Rhaid i’r parth eithrio fod yn glir i’r gweithwyr ar y safle, a’r mesurau rheoli ar gyfer gweithgareddau a all ddigwydd ar y safle ac yn y parth eithrio. Dylai ffens o tua 1m o uchder fod o amgylch y parth eithrio. I alluogi i’r moch daear symud o gwmpas, rhaid i chi adael bwlch oddi tanodd, a byddai dimensiynau o 30cm i un droedfedd yn ddigonol ar gyfer hyn. Fel dewis arall, gellid defnyddio giât moch daear, sy’n debyg o ran cysyniad i fflap cathod.
Gellir cynnal sawl gweithgaredd yn agos at ddaear moch daear. Bydd lefel y gweithgarwch a’r pellter oddi wrth y ddaear yn dibynnu ar a roddwyd trwydded ai peidio.
Mae angen trwydded ar gyfer y gwaith canlynol:
Bydd gweithgareddau eraill sy’n tarfu mwy, fel symud tomenni neu ddefnyddio ffrwydron, o fewn 100m i ddaear(au), angen trwydded. Nid yw’r rhain yn bellteroedd pendant a dylid gofyn am gyngor gan CNC cyn dechrau ar y gweithgareddau hyn, a chyn gwneud cais am drwydded. Efallai y bydd angen addasu’r pellteroedd o 10m, 20m a 30m gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Mae safleoedd adeiladu mor beryglus i foch daear ag i bobl a rhaid i chi weithredu mesurau i leihau’r risg. Dylid storio cemegau yn ddiogel oddi wrth unrhyw ddaear. Dylai tyllau neu ffosydd sy’n cael eu gadael ar agor dros nos gynnig dull o ddianc i foch daear os byddant yn syrthio i mewn.
Os bydd daear moch daear yn cael ei cholli, dylai ecolegydd profiadol a chymwys fod ar y safle i roi cyfarwyddyd. Fel rheol mae’n amod ar y drwydded bod ecolegydd yn gweithredu neu o leiaf yn goruchwylio gwaith i gau a dinistrio daear moch daear.
Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol yr ystyrir gwneud iawn:
Dylid darparu cynefin addas ar gyfer chwilio am fwyd yn lle cynefinoedd chwilio am fwyd sy’n cael eu defnyddio gan foch daear ac a fydd yn cael eu colli, eu difrodi neu eu datblygu. Bydd ecolegydd cymwys yn gallu darparu cyngor am hyn. Mae’n bwysig peidio â dibynnu ar ddarparu gerddi preifat yn unig fel ardaloedd chwilio am fwyd. Y rheswm am hyn yw am fod moch daear yn gallu bod yn ddinistriol a chloddio mewn gerddi, ac felly mae’n well darparu ardaloeddd bwydo eraill heb fod yn gysylltiedig â gerddi.
Os caiff daear moch daear ei dinistrio ac nad oes modd osgoi hynny, bydd rhaid darparu un newydd yn ei lle mae’n bur debyg. Gwneir hyn drwy ddarparu daear artiffisial. Dylid nodi mai dim ond pan mae pob ffordd arall o osgoi dinistrio wedi cael eu hystyried mae hyn yn opsiwn. Os mai hwn yw’r unig ddull addas o weithredu, dylai’r ddaear artiffisial gael ei chreu cyn i’r datblygiad ddechrau.
Bydd ecolegydd cymwys a’r grŵp moch daear lleol yn gallu rhoi arweiniad ac awgrymiadau ar gyfer lleoliadau addas i ddaear artiffisial newydd. Mae’n amhosib dal a symud moch daear i ddaear newydd a rhaid i unrhyw dir lliniaru fod ar gael yn yr ardal gyfagos.
Ni ddylai’r osgoi, y lliniaru neu’r gwneud iawn a ddarperir gan ddatblygiadau ar gyfer moch daear gael eu hystyried yn ynysig. Dylent fod yn rhan o gamau cynllunio yn gynnar yn y datblygiad gydag ardaloedd chwilio am fwyd moch daear.
Gall seilwaith gwyrdd sydd wedi’i gynllunio’n dda gyda gofod agored alluogi i fywyd gwyllt ffynnu, a darparu manteision eraill i’r datblygiad. Dylid cynllunio seilwaith gwyrdd gyda chyfraniad gan ecolegydd. Mae hyn yn galluogi ystyried ffactorau fel sut i gynnwys nodweddion bywyd gwyllt fel daear artiffisial moch daear a hefyd:
Mae’n bwysig nad yw datblygiadau yn ynysu tiriogaeth moch daear drwy ei hamgylchynu â ffyrdd neu dai. Gallai hyn arwain at broblemau fel damweiniau ffordd cynyddol, a difrod gan foch daear i erddi a thai.